hanes Llyn History



Hanes - History

homw







Adran Y Tuduriaid - The Tudor Section

Llŷn Y Tuduriaid

Wrth dynnu bonnedd Sir Gaernarfon i wasanaeth cyhoeddus, cyrhaeddodd eu gafel cyn belled hyd yn oed a Llŷn, oedd yn gymharol boblog.Yr oedd un ran o dair o siryfyddion Sir Gaernarfon yn ystod ugain mlynedd olaf y ganrif yn hannu o Lyn ac Eifionydd, nad oedd wedi cyfrannu cymaint ag un yn ystod hanner cyntaf y ganrif. Gwelwyd yr un tueddiad yn llywodraeth yr Eglwys.

Yn ystod y cyfnod yma hefyd, mae tystiiolaeth fod y traddodiad barddol hir yn dal yn fyw. 'Graddiodd' William Llŷn, a enwyd fel yr unig fardd mewn oes o drai ar farddoniaeth, 'graddiodd yn Eisteddfod Caerwys. Adnybyddid ef fel 'Bardd Llŷn' gan ei gyfoeswyr bu'n dilyn ei alwedigaeth yn Ne a Gogledd Cymru, a bu farw yng Nghroesoswallt. Cai ef a'i debyg groeso mew plasau fel Bowrda a Madrun. Yr oedd gan Gefnamwlch ei fardd teulu ei hun - Morus Dwyfach - llai enwog na'i gyfoedion, a llawer llai ysbrydoledig ei awen, yn ei gyfyngu ei hun i destunau lleol.

Erbyn diwedd y ganrif mae Nefyn a Phwllheli yn chwarae rhan bwysicach ym masnach Sir Gaernarfon, yn arbennig fasnach pysgod, gyda'r byd y tu allan, ac ar yr un pryd y mae llongau lleol yn dechrau cymryd rhan yn y fasnach yn hytyrach na'i fod i gyd yn cael ei adael i fasnachwyr o'r tu allan.

llyn

O stad Bodfel, rhyw ddwy filltir i'r gogledd orllewin o Bwllheli, y cymrodd teulu lleol arall ei gyfenw wrth i gyfenwau ddod yn ffasiynol. Nid oedd llawer o arbenigrwydd i'r teulu hyd tua chanol y ganrif. Ond yna aeth John Wyn ap Huw yn filwr yng ngwasanaeth yr Iarll Warwck a ddaeth yn fuan i amlygrwydd fel Dug Northumberland oedd i bod pwrpas yn llywodraethu Lloegr ym mlynyddoed olaf Edward V1. Ef oedd llumanwr Warwick pan orchfygwyd gwrthryfel Ket ym Mousehold Hill, lle, fel y dywed Syr John Wyn, 'lle y lladdwyd ei geffyl oddi tano ac y clwyfwyd yntau, eto fe ddaliod i chwifio baner fawr Lloegr'. Cafodd ei wobrwyo yn helaeth mewn tiroedd a swyddi gan gynnwys rhai o diroedd mynachlog Enlli ar yr Ynys ei hun ac ar y tir mawr.

Cyhuddwyd ef o ddefnyddio'r tir a'r swyddi i hyrwyddo mor-ladron a defnyddio'r ynys yn storfa i'r ysbail a'i safle gymdeithasol i'w ddiogelu rhag cael ei erlyn.

 

Llyn

 

Gwr arall o Lŷn a fu'n gwasanaethu'r Iarll Warwick oedd Griffith ap John o Gastellmarch, blaguryn o hen deulu o'r ochr ddeheuol i'r Traeth. Yr oedd ei daid wedi ei benodi i un o'r man swyddi yn y drefn sirol yn fuan ar ol y Ddedf Uno, a bu ei dad yn sirydd ym 1548. Daeth gwasanaeth Griffith gyda Iarll Warwick, fel yn achos John Wyn ap Huw, a rhagor o flaenoriaeth: ym 1549 derbyniodd y swydd ddylanwadol o Gwnsatabl Castell Conwy. Roedd hyn i gyd yn sylfaen i swyddi da a phroffidiol i'w wyrion, fabwysiadodd y cyfenw Jones, yn y ganrif ddilynol.

Tudor


 

Yn agos i Aberdaron hefyd yr oedd ty hyfryd Bodwrda a ddaeth yn gyfenw i deulu tebyg iawn i deulu Bodfel. Mater i'r dychymyg yw penderfynu beth oedd ffynhonell cyfoeth y teulu distadl ac anadnabyddus yma i beri i un fod yn siryf ym 1584, a thua deugain mlynedd yn ddiweddarach iddynt ail adeiladu Bodwrda mewn briciau (defnydd adeiladu prin a drud mewn lle mor anghysbell ar y pryd). Ni ellir ond awgrymu eu bod hwythau, fel eu cymheiriaid, Teulu Bodfel, yn byw yn agos i'r mor.

Achau Bodwrdda

Tuduriaid

 

Daeth hen linach Griffith, o Gefnamwlch, i amlygrwydd hefyd yn ystod y ganrif nesaf, ond yr oedynt hwythau eisoes wedi magu siryf ym 1589. Saif Cefnamwlch hefyd rhyw ddwy filltir o ffordd oddi wrth draeth neilltuedig. Bu un o feibion ienga'r teulu, Capten Hugh Griffith, oedd wedi ei brentisio yn fasnachwr yn Llundain, yn cadw busnes proffidiol fel herwlongwr yn erbyn llongau Sbaen am flynyddoedd, ac yna ymestyn i weithrediadau llai cyfreithlon lle'r oedd ei dad yn cynorthwyo yn ogystal a'i frawd yng nghyfraith, William Jones Castellmarch, cofrestrydd Beaumaris a barnwr yn ddiweddarach. Bu ymholiadau yn Llys y Llynges ond nid ymddengys i enillion amheus y naill na'r llall o'r ddau deulu gael eu datgelu.

Llyn


Y'mhlith y teuluoedd mwyaf urddasol yn Lleyn, ganrifoedd yn ol, ar gyfrif gwaedoliaeth, bonedd, a chyfoeth, yr oedd y rhai a ganlyn :-Teuluoedd Gwynus, Pistyll, Madryn, Saethon, Nanhoron, Gastellmarch, Methlem, Carreg, Bodwrdda, Llangwnadl, Nyffryn, Cefnamwlch, Meillteyrn, Trygarn, Tymawr, Penyberth, Gelliwig, ayyb.


Achau Saethon
Teuluoedd y , Saethon, Llanfihangel, LLyn.
Robert Wyn ab Ieuan ab Robert ab Hywel ab Gruffydd ab Dafydd Vychan o Gefnamwlch, ab Ieuan ab Meredydd ab Ieuan ab Dafydd Goch ab Trahaiarn Goch o Leyn, ab Madog ab Rhys Gloff ab Rhyn Fychan ab Gruffydd ab Rhys ab Tewdwr Mawr.
Peis-arfau Rhys ab Tewdwr oedd Llew melyn yn y maes coch. Mam Robert ab Ifan oedd Elizabeth merch Sion Bodwrdda ab Sion ab Meredydd Fychan. Mam Robert ab Hywel ab Gruffydd oedd Margaret ferch Rhys ab Hywel ab Madog ab Ieuan ab Einion ab Gwgan ab Merwydd ab Collwyn, pennaeth un o Bymtheg Llwyth Gwynedd, fel y crybwyllwyd eisoes. Mam Gruffydd ab Dafydd Fychan oedd Mallt (Matilda) ferch Hywel ab Llewelyn ab Gruffydd ab Llewelyn ab Dafydd ab Cynyr (Cynan) ab Tudur ab Iorwerth, o'r Rhiw yn Lleyn: Robert a briododd Catrin ferch Rhys Wyn o Fwsoglan. Sion a briododd Margaret ferch Robert Gruffydd o'r Plas Hen.
(Br., Cyf. III, t. d. 252.)


Achau Carreg
Achau Carreg yn Lleyn:
Rhys ab Tewdwr mawr, Tywysog y Deheubarth.
Gruffydd ab Rhys ab Tewdwr.
Yr Arglwydd Rhys a fu farw 0.C. 1197.
Rhys Gloff, a briododd Gwerfyl merch Maelgwyn ab Cadwallon.
Madog ab Rhys, a briododd Tanglwst âch Gronwy ab Einion ab lestyn ab Gwrgant, Arglwydd Morganwg.
Trahaiarn Gocb, Arglwydd Cymmydmaen yn Lleyn, a briododd Gwerfyl âch Madog ab Maredydd ab Maelgwyn ab Cadwallon ab Elystan Glodrydd.
Dafydd Goch.
Sion Carreg Bach.
Ifan, a briododd Gwenllian âch Ifan âch Hywel Coetmor.
Gruffydd.
Rhobert a fu farw yn 1579, a briododd Catrin âch Rhisiart ab Sion ab Madog o Fodwrdda. Eu plant oedd Ifan, Gruffydd, Sion, William, Rhobert, Ellis.
I Gruffydd yr oedd merch o'r enw Lowri; i William, Annes; ac i Ellis, Catrin.
Dyma fel y rhoddir achau Carreg gan Myrddin Fardd:-
Ifan ab Gruffydd ab Ifan ab Gruffydd Carreg, ab Ifan, ab Sion Carreg Bach, ab Dafydd Goch, &c., fel âch Cefnamwlch. Ifan ab Gruffydd Carreg a briododd Ellin merch Sion Wyn ab Hugh o Fodwrdda. Ifan ab Sion Carreg a briododd Elsbeth merch Rhobert ab Llewelyn o Benllech. Robert Carreg a briododd Catrin merch Rhisiart ab Sion o Fodwrdda. Ifan ab Robert a briododd Gwenhwyfar merch Madog ab Iolyn.
(Brython, Cyf. III., t. d. 432; a t. d. 453.)



Achau Methlem:
Gruffydd ab Morys ab Gruffydd (bu farw O.C. 1687) Ieuan ab Morys ab Gruffydd ab Ifan ab Sion Carreg ab Dafydd ab Ifan ab Dafydd Goch (Abad Enlli) ab Trahaiarn Goch, &c., fel âch Cefnamwlch. Gruffydd ab Ieuan a briododd Margred merch Rolant ab Robert o Fellteyrn. Ieuan ab Morys a briododd Blanche, merch Arthur Williams, Meillionydd. Gruffydd ab Ieuan a briododd Elsbeth merch Gruffydd ab Dafydd Fychan. Ieuan ab Sion a briododd Gwen merch Morys Gruffydd o'r Plas-du. Morys ab Gruffydd a briododd Mary Wen o Fodeon.
(Gwel Brython, Cyf. III., t. d. 453.)



Achau LLangwnadl:
Sion Llwyd ab Francis Llwyd (bu farw O.C. 1694) ab Sion Llwyd, ab Sion Llwyd ab Francis Llwyd ab Owain, ab Dafydd ab Sion ab Gruffydd ab Fychain, &c., fel âch Cefnamwlch. Francis Llwyd a briododd Catrin merch ac Aeres Sion Wyn o Benllech. Sion Llwyd a briododd Elsbeth merch William Wyn o'r Glyn.
(Brython, Cyf. Ill., t. d. 453.)
Achau Trygarn:
Rhisiart Trygarn ab Robert ab Rhisiart ab Robert ab Rhisiart ab Thomas ab Robert ab Rhisiart b Cynfrig, ab Bleddyn, &c., fel âch Cefn Llanfair.
(Br., Cyf. III., t. d. 453.)



Achau Teulu Nanhoron:
Olrheinia y teulu hwn ei âchau i Iwythau brenhinol Cymru:-o ochr y tad drwy Rhys ab Gruffydd ab Llywelyn Fychan ab Cynfrig, disgynydd o HyweI Dda, wyr Rbodri Mawr, brenhin holl Gymru.
Rhys ab Gruffydd a briododd Agnes, merch ac aeres Gruffydd ab Madog Fychan, Ysw., o Nanhoron a Llwyndyrus, y pumed disgynydd o Syr Gruffydd Llwyd o Gastell Dinorwig, sir Gaerynarfon, a Thregarnedd, sir Fôn, gorwyr Ednyfed Fychan ab Cynfrig, o Brynffanigl, sir Ddinbych. Ednyfed Fychan oedd ArgIwydd Cruccaith, ac is-gadfridog i Llewelyn ab lorwerth, Tywysog Cymru, yn mrwydr Tegonwy, ac wedi hyny yn brif, gynghorwr iddo. Efe oedd yn disgyn o Marchudd ab Cynan, Arglwydd Brynffanigl ac Uwch Dulas, sir Ddinbych, drwy yr hwn y maent yn perthyn i Fostyniaid Mostyn, Williams BuIckley, o Baron Hill, Wynuiaid o Wynnstay, Wynniaid Coed Coch, Wynniaid Peniarth, Williams Meillionydd, Fychaniaid Nannau, ac amryw eraill.
0 ochr y fam drwy Llwydiaid Llangwnadl, Hirdrefaig, a Bronheulog. John ab leuan o Hirdrefaig, ab John ab Meredydd ab Elywel, Arglwydd Ffriwlwyd yn Eifionvdd (o deulu Gwydir) a briododd Efa, merch ac etifeddes Hywel ab Einion, sef - Hywel y Fwyall, y chweched o Collwyn ab Tango, disgynydd o Thomas ab Rhodri, Arglwydd Môn, mab Owain Gwynedd, gan Cristiana, merch Owain ab Edwyn, Arglwydd Tegeingl. John ab Ieuan oedd tad Syr Rhisiart Gwynne, marchog, yr hwn a briododd Gwenhwyfar, merch John ab Cadwaladr, Ysw., o'r Foelas;. ei ferch ac etifeddes a briododd Francis Llwyd, Ysw., o Langwnadl, a Hirdrefaig, mab Owain Llwyd ab Dafydd Llwyd ab Gruffydd ab John o Gefnamwlch (gan Catrin merch Syr Rhisiart Bulckley o Baron Hill), disgynydd o Ddafydd Goch ab Trahaiarn Goch o Leyn, ab Madog ab Rhys Gloff, ac o Rbys ab Tewdwr, drwy y rhai y maent yn perthyn i amryw deuluoedd urddasol yn Lleyn ac Eifionydd. Rhisiart Edward, Ysw., o Nanhoron, y cyntaf a gymerodd yr enw teuluol Edwards, y pumed oddiwrth Rhys ab Gruffydd, a briododd Ann, merch ac etifeddes Fredric Wyn, Ysw., o Bodfean, drwy yr hyn y cysylltwyd Bodwyddog a Nanhoron, Llangwnadl, Hirdrefaig a Bronheulog, yr oll yn perthyn yn ddiweddarach i R. Lloyd.Edwards, Ysw., Nanhoron, (a elwid gynt yn Bryn y Neuoedd,) wedyn i'w fab, F. W. Ll. Edwards, Ysw. Y mae cywyddau ar gael o waith Owain Gruffydd, Llanystumdwy, leuan Lleyn, ac eraill, yn dwyn cysylltiad â'r Ilin-âchau hyn. Ceir Cywydd-Marwnad i R. Edwards, Ysw., Nanhoron, yn y Brython, Cyf. IV., t. d. 340.
(Brython, Cyf. IV., t. d. 248.)



Teulu Madryn:
Y mae teulu Madryn yn un o'r rhai mwyaf hynod ac enwog yn Lleyn ar amryw gyfrifon. Meredydd ab Einion oedd tad Hywel y Fwyall, yr hwn a briododd Gwenllian, merch Gruffydd ab Ednyfed Fychan, o'r hon y cafodd ddau fab-Ieuan a Gruffydd. I Ieuan yr oedd tair merch-Myfanwy, Gwenllian, ac Angharad. Angharad oedd gwraig Hywel ab Grono ab Ieuan ab Grono o Hafod y Wern. Gruffydd a briododd Angharad, ferch Tegwared y Beiswen, ordderch-fab i Llewelyn Fawr, Tywysog Gogledd Cymru, o'r hon y cafodd, 1af, Einion; 2il, Hywel; 3ydd, Rhys,-hynafiaid y Madryniaid o Fadryn, Llannerch, a Charnguwch. Yr oedd Elphin yn un o hynafiaid y teulu hwn, ac yn disgyn o deulu urddasol fel y canlyn :- Elphin ab Gwyddno ab Cawrdaf ab Gorboniawn ab Dyfnwal Hen ab Edyn ab Macsen Wledig ab Llewelyn, ewythr Elen Lluyddawg. Elin, merch Hugh Gwynne, o Benarth, yn Eifionydd oedd fam i Love-Parry, Ysw., tad Love-Parry, Ysw., o Benarth, tad Margaret, mam y diweddar Syr Love-Parry, o Fadryn, a nain yr aelod seneddol (1883) dros Fwrdeisdrefi Arfon, T. D. Love-Jones Parry, Ysw., A.C.H., o Fadryn, neu "Elphin ab Gwyddno." (Brython, Cyf. 111. t. d. 288, 117, 67.)



Teulu Bodwrdda:
Elis Elis, Ysw, o'r Ystumllyn, a briododd Mably, merch William Lewys Anwyl, o'r Parc, Ysw., Llanfrothen, o'r hon y cafodd Elizabeth, yr hon a briododd Hugh Jones, Ysw., Bodsilin; ac Owain Elis, Ysw., o'r Ystumllyn, a briododd Elizabeth ferch John Bodwrdda, Ysw., a chwaer i Huw Bodwrdda, o'r hon y by iddo fab, Owain Elis (yr hwn a syrthiodd oddiar ei geffyl, rhwng y Faerdref a Nanhoron, ac a fu farw), a merch ac etifeddes Margred Elis, yr hon a briododd John Wyn, Ysw., o Benyberth, yr hon a fu farw Medi 22ain, 1712.- Bu John Wyn, Bodwrdda, yn Sirydd yn 1584; Huw Bodwrdda yn 1606; a John Bodwrdda yn 1606.
(Brython, Cyf. Ill., t. d. 293.)



Ceir crybwyllion lluosog a diddorol am Achau teuluoedd :-
Penyberth, Castellmarch, Tymawr, Pistyll, Gwynus, Llanerch, &c., yn y Brython, Cyf. III. tudal. 287-295. Prawf hyn y gall Lleyn ymffrostio cyimaint âg odid un rhan o'r Dywysogaeth mewn meddu boneddigion o urddas a gwaedoliaeth, yn ogystal âg enwogion o bob natu'r. (Brython, Cyf. 111., 234.)


Tudor Llŷn

In drawing the Caernarvonshire gentry into the public service the Tudors stretched their hand even to distant (but relatively populous) Llŷn. A third of Caernarvonshire's sheriffs during the last twenty years of the century were drawn from Llŷn and Eifionydd, which had supplied not a single one during the first fifty years; the same phenomenon occured in the government of the Church.

During this period there is also evidence that the long bardic tradition was still very much alive. William Llŷn, who has been called the only bard, in an age of decline, worthy of comparison with the great figures of the preceding generation from whom he learned his craft, 'graduated' at the Caerwys eisteddfod. Known to contemporaries as ' the bard of Llŷn ', he plied his profession in both North and South Wales, and died at Oswestry. He and his like were welcomed at such houses as Bodwrda and Madrun; Cefnamwlch had its own less distinguished household bard in Morus Dwyfech, whose muse did not range far beyond local themes.

Towards the end of the century Nefyn and Pwllheli are taking an increasing part in Caernarvonshire's trade, especiallv in fish, with the outside world, and at the same time local shipping is beginning to participate, instead of leaving it all to merchants from outside.

 


Some two miles north-west of Pwllheli lay the estate of Bodfel, from which another local family took its name once surnames came into fashion. Until about the middle of the century its record remained undistinguished; then John Wyn ap Hugh took service under the earl of Warwick who was soon to achieve notoriety as the duke of North umberland who virtually ruled England in the later years of Edward VI. He was Warwick's standard bearer when Ket's rebellion was crushed at Mousehold Hill, where (as Sir John Wynn tell us) ' his hors was slaine under him and himself hurt and yet he upheld the great stander of England'. For this he was richly rewarded with both offices and lands, including some of the former lands of the abbey of Bardsey on the island itself and on the mainland.

He was accused of using both offlce and land to promote piracy, with the island as a depot for his loot and his public position to shield him from prosecution.

 


 

Another son of Llŷn who entered the service of the same earl of Warwick was Grifflth ap John of Castellmarch (near Aberdaron)Ñscion of a very ancient family originating south of the Traeth. His grandfather had been appointed to one of the minor offices in the county hierarchy soon after the Act of Union, and his father became sheriff in 1548. Griffith's service with the earl of Warwick, like John Wyn ap Hugh's, brought with it further advancement: in 1549 he was given the influential post of constable of Conway. All this laid a firm foundation for distinguished and lucrative careers for his sons and grandsons (who took the name of Jones) in the next century.

 


 

Also near Aberdaron was the fair house of Bodwrda, which gave its name to a family closely akin to the Bodvels. What was the source of the wealth which enabled this ancient but hitherto inconspicuous family to qualify for the office of sheriff in 1584, and some forty years later to rebuild Bodwrda in brick (a rare and long unique building material for so remote a region) is a matter of guesswork; one can only observe that, like their kinsmen of Bodfel, they lived conveniently near the sea.

Bodwrdda liniage

 

 


 

The equally ancient stock of Griffith of Cefnamwlch, some six miles to the north, came into its own in the next century, but it too had supplied a sheriff by 1589. Cefnamwlch lies only a couple of miles from a sequestered shore; a younger son of the house, Gaptain Hugh Griffith, apprenticed to a London merchant, had for years carried on a profitable privateering business against Spain, and then extended it to less legitimate operations, in which his father participated, as well as his brother-in-law William Jones of Castellmarch, recorder of Beaumaris and a future judge. There were investigations at the court of admiralty, but it does not appear that the dubious gains of the two families were ever disgorged.


 


 
top
 

nol

llyn

mlaen

© penLlŷn.com 2003-9