Pwllheli.co.uk

Default screen resolution  Wide screen resolution  Increase font size  Decrease font size  Default font size  Skip to content

Newsflash

"Gwynedd is open for business and we welcome into Gwynedd people from all kinds of backgrounds and always will do." - Council leader Richard Parry Hughes

 
Home
Marina: Cais am 1,000 o angorfeydd
Written by Administrator   
Saturday, 06 May 2006
Flwyddyn wedi i gynghorwyr Gwynedd wrthod cais i greu 300 o angorfeydd newydd ym marina Pwllheli, mae criw o bobl busnes yn paratoi i gyflwyno cais i greu 1,000 yn rhagor o angorfeydd yno. Fe wnaeth rhaglen Llinyn Mesur BBC Radio Cymru ddatgelu fod consortiwm o bobl sy'n rhedeg busnesau yn y marina yn bwriadu cyflwyno'r cais i'r cyngor sir ddechrau mis nesa. Cafodd y cais gwreiddiol, gafodd ei gyflwyno gan y cyngor ei hun, ei wrthod oherwydd pryderon y byddai'r datblygiad yn cael effaith niweidiol ar iaith a diwylliant yr ardal. Ond dywedodd llefarydd ar ran y consortiwm y tu ôl i'r cynnig newydd mai "nonsens" yw awgrymu y byddai'n niweidio'r iaith. Cadw pobl ifanc Dywedodd Ian Harrison ar ran y 22 unigolyn sy'n perthyn i Gymdeithas Masnachwyr Marina Pwllheli: "Os ydach chi am warchod diwylliant a iaith, siawns gen i taw'r ffordd ora o wneud hynny yw i gadw pobl ifanc yn yr ardal ac i greu swyddi lllawn amser o safon iddyn nhw. "Fyddai hynny'n diogelu'r iaith a'r diwylliant." Ychwanegodd Mr Harrison fod angen ehangu'r marina gan fod mwy na 400 o bobl ar restr aros am angorfa a bod pobl fusnes lleol yn teimlo'n rhwystredig. Dywedodd y cynghorydd Dafydd Iwan, sydd â chyfrifoldeb am faterion yn ymwneud â datblygu ar y cyngor, y byddai'r cais newydd yn cael ei ystyried yng nghyd-destun cynllun adfywio newydd y sir. "Dydi 1,000 o angorfeydd newydd ddim yn swnio'n realistig i mi, ond fydd y syniadau yma i gyd yn cael eu bwydo i'r broses sydd yn creu cynllun adfywio i Bwllheli a Phen Ll?n," meddai. "Mae'n rhaidi i ni gryfhau'r economi ond mewn ffordd gall sydd ddim yn mynd i ddifetha'r hyn sy'n gwneud Ll?n a Phwllheli mor werthfawr i Wynedd ac i Gymru."
Last Updated ( Tuesday, 06 June 2006 )
 
Fresh plans for marina expansion
Written by Administrator   
Monday, 05 June 2006
The Pwllheli Marina Traders Association told the BBC of its planning application for 1,000 berths. Proposals to almost double the size of the 400-berth marina were rejected last year because concerns over the potential impact on the Welsh language.
Last Updated ( Tuesday, 06 June 2006 )
 
Strengthen the economy
Written by Administrator   
Monday, 05 June 2006
"We must strengthen the economy but in a sensible way which is not going to spoil what makes Llyn and Pwllheli so valuable to Gwynedd and to Wales." - Councillor Dafydd Iwan
Last Updated ( Tuesday, 06 June 2006 )
 
<< Start < Prev 1 2 3 Next > End >>

Results 9 - 11 of 11

Login Form






Lost Password?
No account yet? Register

Syndicate

Polls

How many extra berths should there be at Pwllheli Marina
 

Who's Online

We have 9 guests online
Copyright © 2010 Pwllheli.co.uk.  Argraff Our site is valid CSS Our site is valid XHTML 1.0 Transitional