Pwllheli.co.uk

Default screen resolution  Wide screen resolution  Increase font size  Decrease font size  Default font size  Skip to content

Newsflash

The Pwllheli Marina Traders Association told the BBC of its planning application for 1,000 berths. Proposals to almost double the size of the 400-berth marina were rejected last year because concerns over the potential impact on the Welsh language.
 
Home arrow News arrow Latest arrow Arolwg iaith archfarchnadoedd
Arolwg iaith archfarchnadoedd PDF Print E-mail
User Rating: / 1
PoorBest 
Written by Administrator   
Friday, 19 January 2007

Mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu cynnal arolwg i geisio darganfod faint o ddefnydd syn cael ei wneud o'r iaith Gymraeg mewn archfarchnadoedd drwy'r sir.

Pwyllgor cynllunio ardal Dwyfor sydd wedi gwneud y cais gan eu bod wedi derbyn cwyn bod llawer o arwyddion yn siop Asda ym Mhwllheli yn Saesneg yn unig.

Cysylltodd mudiad Cyfeillion Llyn â'r cwmni fis Tachwedd i gwyno nad oedd digon o Gymraeg i'w gweld yn y siop gan yrru copi o'r llythyr at y cyngor.

Mae Asda wedi syrthio ar ei fai gan addo cyfieithu llawer mwy o arwyddion.

Mae nifer o arwyddion dwyieithog yn y siop ond mae amryw hefyd yn uniaith Saesneg.

Ardal Gymraeg

Dywedodd Llywydd Cyfeillion Llyn, y cyn Archdderwydd Robyn Lèwis: "Roedden ni wedi deall gan Asda drwy'r wasg cyn iddyn nhw ddod (i Bwllheli) eu bod nhw'n derbyn bod hon yn ardal lle'r oedd tua 70% yn siarad Cymraeg fel iaith gynta ac y byddid yn defnyddio'r Gymraeg yn fwy eglur na'r Saesneg drwy'r siop.

"Cymrais arnaf fy hun i fynd draw ar ôl iddi agor i edrych dros fy hun i ba raddau yr oedd y Gymraeg wedi cael ei defnyddio.

"Mae'n wir bod rhai arwyddion eitha mawr yn rhai dwyieithog ac wedi cael eu gwneud yn arbennig ar gyfer y siop.

"Ond roedd 'na sbel dros 100 o wahanol arwyddion oedd heb eu cyfieithu o gwbwl ac yn uniaith Saesneg - pethau fel 'Canned Fruits', 'Dog Food' ac yn y blaen."


Yr wythnos hon fe ddywedodd un o swyddogion y cyngor wrth y pwyllgor cynllunio eu bod wedi cynnal ymchwiliad gan ymweld â'r siop.

Dywedodd Gruff Morris eu bod wedi cael llythyr gan y cwmni yn datgan eu bod yn "gweithio'n galed gyda'i bencadlys yn Leeds i geisio cael arwyddion newydd yn lle rhai sy ddim yn ddwyieithog".

'Proses hir'

Eglurodd y cwmni yn y llythyr fod hyn yn cymryd amser gan fod nifer o gwmnïau arwyddion.

"Rydym wedi cyfieithu'r arwyddion Saesneg i'r Gymraeg ac mae'r manylion wedi eu danfon i'n pencadlys," medd y cwmni.

Ychwanegodd Mr Morris fod swyddog iaith y cyngor wedi cysylltu ag uned sector breifat Bwrdd yr Iaith Gymraeg a chael sicrwydd eu bod nhw wedi cydweithio ag Asda i drefnu arwyddion dwyieithog cyn agor y siop.

"Roedden nhw'n teimlo fod mwy o ddwyieithrwydd i'w gael yn siop Asda ym Mhwllheli nag yn unrhyw siop Asda arall.

"Maen nhw hefyd wedi gwneud addewid i ddefnyddio mwy o'r Gymraeg."

Galwodd maer Pwllheli, y Cynghorydd Alan Williams, ar y cwmni i gael polisi dwyieithrwydd ym mhob un o'i siopau yng Nghymru ac i ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg wrth wneud datganiadau uchelseinydd.

Cytunodd y pwyllgor i ofyn i is-bwyllgor iaith y cyngor i edrych i'r defnydd o'r Gymraeg yn holl archfarchnadoedd y sir, ac i weld faint o staff sy'n medru'r iaith.

Croesawu hynny y mae Dr Lèwis: "Dyma ddylie'r polisi fod trwy Gymru ond dydi deddf yr iaith ddim yn caniatáu i hynny ddigwydd.

"Dyna un o'r diffygion o safbwynt yr iaith yng Nghymru - dydi'r galluoedd ddim ganddon ni i orfodi'r Gymraeg ar y sector breifat."

source - bbc

Last Updated ( Thursday, 18 January 2007 )
 
< Prev   Next >
Copyright © 2010 Pwllheli.co.uk.  Argraff Our site is valid CSS Our site is valid XHTML 1.0 Transitional