| "We must strengthen the economy but in a sensible way which is not going to spoil what makes Llyn and Pwllheli so valuable to Gwynedd and to Wales." - Councillor Dafydd Iwan |
| Richard Evans y meddyg esgyrn o Bwllheli |
|
|
|
| Written by Administrator | |
| Friday, 12 January 2007 | |
|
YN Yr Herald Cymraeg, Rhagfyr 20, gwelais bwt ar feddyg esgyrn yn 1913, ac yr ydych yn gofyn am unrhyw un sy’n ei gofio. Tybed mai at fy hen ewythr (brawd fy nain) y cyfeirir ato sef Richard Evans y meddyg esgyrn o Bwllheli (isod). Yr oedd yn un o ddisgynyddion teulu enwog Meddygon Esgyrn Môn ac yn ddisgynnydd i Evan Thomas y meddyg esgyrn adnabyddus o Great Crosshall Street, Lerpwl. Magwyd Richard Evans yn Nhy’n Bengan, Penygroes ond gadawodd y cartref yn ifanc i fynd i weini’n Llanfaethlu, Sir Fôn. Darganfu’n ifanc bod ganddo’r ddawn i drin esgyrn pan yn ymweld â’i daid a’i ewythredd yn Llanfaethlu a byddai’n cerdded milltiroedd i ymarfer y ddawn honno. Daeth yn enwog drwy Gymru a rhannau o Loegr. Ar ôl priodi aeth Richard Evans i fyw i Bwllheli a sefydlodd feddygfa yn Adferle, Gaol Street. Roeddem ninnau’n byw yn y Stryd Fawr ar y pryd a byddwn yn mynd i Adferle gyda mam neu ’nhad pan yn blentyn, a chofiaf mai un o’r p0ethau cyntaf fyddai fy nhad yn gorfod ei wneud ar ôl cyrraedd fyddai mynd ati i droi “Olew Gewynnau” Wncwl Richard. Roedd yn rhaid troi a chymysgu’r olew yn aml a hir cyn ei botelu. Ni wn beth oedd y rysait (mae’n gyfrinach sydd wedi cael ei phasio i rai aelodau o’r teulu) ond gwn ei fod wedi helpu llawer i berson oedd wedi troi ffêr neu â phoenau yn eu cyhyrau. Byddaf yn cadw potel o’r “Olew Gewynnau” yn y t ac wedi ei ddefnyddio sawl gwaith. Ar y label ddwyieithog mae’n dweud ei fod yn iachaol ac esmwythaol a bod angen ei rwbio’n dda ar y lle dolurus.
Source - Tudur H. Jones, Yr Herald Cymraeg |
|
| Last Updated ( Thursday, 18 January 2007 ) |
| < Prev | Next > |
|---|
| Home |
| Blog |
| News |
| Links |
| Contact Us |
| Search |
| News Feeds |
| FAQs |