| |
Hanes Brwydr Ysgol Bryncroes Richard
Thomas Meillionydd
(Detholiad allan o draethawd Hanes ar gyfer B.A.) |
|
Aeth Awdurdod Addysg Sir Gaernarfon ati i ad-drefnu
addysg gynradd a chyhoeddwyd ar Dachwedd 23ain 1967 bod yr Awdurdod Addysg
yn bwriadu cau
ysgolion Bryncroes a Llaniestyn yn Llŷn ac yn symud y plant i Ysgol
Pont-y-gof, Botwnnog. Roedd 31 o blant yn Ysgol Bryncroes ar y pryd ac
aeth y rhieni
a'r ardalwyr ati yn syth i wrthwynebu'r cynllun.
Ffurfiwyd Cymdeithas Rhieni Bryncroes yn lonawr 1968 a chafwyd cyfarfod
cyhoeddus ym Mryncroes ar lonawr 19eg. Yn y cyfarfod dywedodd Harri Williams,
Ysgrifennydd
y Gymdeithas Rhieni fod symud y plant yn mynd i olygu "chwalu bywyd cymdeithasol
y gymuned a chyflymu'r mudo o gefn gwlad". Cyhoeddodd y rhieni bamffled
yn rhestru nifer o resymau dros gadw'r ysgol ar agor. Roedd yr ysgol yn ganolbwynt
i gymdeithas wledig ochr yn ochr â chapel ac eglwys. Byddai cau'r ysgol
yn gwanychu'r gymdeithas ac yn sicr yn prysuro'r diboblogi yn yr ardal. Roedd
pentre ac Ysgol Bryncroes yn gadarnle i'r pethe. Dadleuai'r rhieni mai'r berthynas
rhwng athro a disgybl oedd sylfaen pob gwir addysg a bod popeth materol arall
megis adeiladau da ac offer a chyfarpar costus yn gymharol ddibwys.
Roedd agwedd yr awdurdodau yn gwbl drahaus. Mor bell yn ôl â 1955
roedd y Cadeirydd Cyllid wedi datgan yn ei adroddiad blynyddol yn dilyn cau nifer
o ysgolion bychain y sir, "I note with great pleasure that a number of small
rural schools in the county have been closed, "and I am looking forward
to
the dosure of a few more so that we can save on finance."
Mewn cyfarfod cyhoeddus yn 1968 cynghorodd Robyn Lewys y rhieni i alw ymchwiliad
cyhoeddus a sicrhau cyhoeddusrwydd i'r ffolineb o gau'r ysgol.
Er gwaethaf protestiadau'r rhieni fe gaewyd yr ysgol ar Fai 1 af 1970 ar ôl
80 mlynedd o wasanaethu'r gymuned leol. Erbyn hyn dim ond 27 o blant oedd yn
yr ysgol gan fod rhieni saith o'r plant wedi penderfynu anfon eu plant i Ysgol
Pont-y-gof.
Penderfynodd y rhieni gynnal streic undydd a pheidio ag anfon eu plant i Bont-y-gof
ar Fai'r 4ydd. Parhaodd y streic am wythnos ac mewn cyfarfod ar Fai'r 4ydd penderfynwyd
parhau â'r streic a chynnal ysgol annibynnol yn y pentref.
Roedd yr ysgol ar glo felly cynhaliwyd yr ysgol yn neuadd yr eglwys (a arferai
fod yn ysgol ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg).
Yn ystod y penwythnos bu criw o aelodau Cymdeithas yr laith yn paentio a glanhau
neuadd yr eglwys a'i pharatoi ar gyfer derbyn y plant ar y dydd Llun canlynol
sef Mai 11eg.
Pan aeth y plant i'r ysgol newydd ar y dydd Llun roedd aelodau o Gymdeithas yr
laith o Goleg Bangor yno i'w cyfarch. Cyflwynwyd llyfrau ac offer chwarae yn
rhoddion i'r plant gan y myfyrwyr. Dwy o'r rhieni sef Mrs. Gladys Thomas a Mrs.
Beti Parry Hughes, dwy gyn-athrawes, oedd yn dysgu Ir plant.
Bu ysgol annibynnol yn neuadd yr eglwys am 7 wythnos. Ond penderfynwyd meddiannu
ysgol y pentref ar Fehefin 23ain - roedd yn segur a dan glo ers saith wythnos
. Roedd.allwedd yr ysgol gan y Parch. Robert Williams - Cadeirydd y
Pwyllgor Rhieni.
|
Gorymdeithiodd tua chant o rieni a chefnogwyr i'r ysgol a'i meddiannu
ac yna symudwyd desgiau a chadeiriau i'r ysgol. Cafwyd swper yn neuadd
yr eglwys i ddathlu'r achlysur.
Daeth desgiau, cadeiriau, cypyrddau a byrddau du yn anrheg oddi wrth Ysgol
Gymraeg Glyndŵr drwy garedigrwydd Trefor a Gwyneth Morgan. Cludwyd
y cyfan i Fryncroes ar lori Hugh Griffiths y Glo, Aberystwyth gydag Alun
Griffiths a'r gyrrwr yn helpu cludo'r dodrefn.
Ceisiodd y rhieni unwaith eto i gael yr Awdurdod Addysg i newid eu meddwl
ond yn ofer. Pan deithiodd tua 40 o rieni a chefnogwyr i Gaernarfon i gyfarfod â'r
Cyngor Sir roedd dau heddwas cudd yn cadw golwg ar y digwyddiadau. Ni allai'r
rhieni ddeall pam fod yr heddweision yn bresennol gan nad oedd unrhyw fwriad
ganddyn nhw greu helynt.
Yn ystod gwyliau'r haf 1970 rhoddodd y Cyngor Sir glo newydd ar y drysau
a chadwyn ar lidiart mynedfa'r ysgol.
Protestiodd Gruffydd Parri yn erbyn hyn gan ddweud " Mae gosod y cloeon
hyn ar ddrysau a giat yr ysgol yn golygu bod y dodrefn ac offer ysgol a
roddwyd i ni gan gyfeillion wedi cael eu cloi i mewn ac
y byddwn ni'n methu eu defnyddio i barhau i gynnal ysgol annibynnol pan
fydd y tymor newydd yn cychwyn."
Er bod yr ysgol dan glo penderfynwyd parhau â 'r ysgol annibynnol
ac ymddangosodd hysbyseb yn y papurau newydd yn gofyn am ymgeiswyr am swydd
athro/athrawes i'r ysgol.
Ar Fedi 2 1970 codwyd y clwydi yn glir oddi areu colynnau a'u taflu ar
lawr gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith a meddiannwyd yr ysgol gan ddeuddeg
ohonyn nhw yn enw'r rhieni. Daeth yr heddlu ond wedi cael sicrwydd na fyddai
unrhyw niwed yn cael ei wneud i'r ysgol fe aeth yr heddlu oddi yno. |
Ail-agorwyd yr ysgol annibynnol ar Fedi'r 3ydd a daeth 23 o blant yno.
Penodwyd Jenny Preston o Flaenau Ffestiniog yn brifathrawes ar yr ysgol
annibynnol - roedd hi newydd orffen cwrs athrawes yng Ngholeg y Drinod,
Caerfyrddin. Dechreuodd hi ar ei gwaith ddechrau'r tymor ar ddydd Llun
Medi'r 7fed a thalwyd ei chyflog allan o gronfa arbennig o arian a
ddaeth o bob rhan o Gymru i gefnogi safiad y rhieni. Dywedodd hi wrth
y Wasg, "Rwy'n
fodlon cael fy ngalw'n dresmaswraig ond rwy'n credu yn yr hyn mae rhieni
Bryncroes yn ei wneud. Roedd Gladys Thomas a Beti Hughes yn ei chynorthwyo.
Gwnaed cais ofer i gael caniatâd i sefydlu Ysgol Wirfoddol dan Gymorth
ond gwrthodwyd. Yn ystod yr ymgyrch cafodd y rhieni gefnogaeth eang megis
llythyron oddi wrth amryw o bobl amlwg megis John Gwilym Jones y dramodydd
a ddywedodd "Ysgol yw sail bywyd bro a sail ei chymdeithas".
Ar Hydref y 3ydd 1970 cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ym Mryncroes a
daeth cannoedd o bobl yno o bob rhan o Gymru. Addurnwyd yr ysgol â phosteri
yn dwyn negeseuon megis Trech Gwlad nac Arglwydd, Yplant - eiddo'r
Wladwriaeth neu eiddo'r rhieni? Beth sydd o'i le ar Ysgol Gristnogol
Gymraeg? Defnyddiwyd
trol fel llwyfan yn nghanol y pentref.
Cafwyd nifer o enwogion i annerch y dorf fawr megis W.R.Jones, Cassie
Davies ac eraill. Dywedodd Cassie Davies, ''Am saith mlynedd o'u hoes
mae ysgol
bentref yn gartref i blant y pentref. Byddai cau ysgol yn groes i ddymuniad
rhieni yn cyfateb i fynd â chartref y plant oddi arnyn nhw trwy
drais ... daw dydd pan yr ystyrir pobl Bryncroes yn arwyr."
Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol llogwyd Pabell y Cymdeithasau yn
Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman 1970 ac anerchwyd gan Cassie Davies,
WR. Jones, R.S.
Thomas, Gwyneth Morgan, Gruffydd Parri gyda'r Parch Robert Williams
yn cadeirio.
Derbyniodd y rhieni lythyr gan Gyngor Sir Gwynedd yn eu rhybuddio yr
elynid hwy yn yr Uchel Lys am dresbasu oni waceid yr adeilad erbyn
diwedd Hydref. Dywedodd Harri Williams, Ysgrifennydd y Pwyllgor Rhieni
am y llythyr bygythiol ei fod yn "arwydd
o ormes y rhai oedden ni'n delio â nhw, a gobeithiaf y bydd ei
gyhoeddi yn agor llygaid pobl i weld y math o bobloedd mewn awdurdod
yn y sir."
Bu'n rhaid i'r rhieni ildio wedi brwydr hir a dewr. Roedd yr ymgyrch
yn fuddugoliaeth - er colli'r dydd - ni chaewyd yr un ysgol fach yng
Ngwynedd tan yr wythdegau.
|
| |
| |
|