Ar
y 4ydd o Fai 1970 penderfynwyd cynnal ysgol annibynnol
yn neuadd yr eglwys. Derbyniwyd offer
chwarae a llyfrau yn rhoddion gan aelodau o Gymdeithas
yr Iaith o Goleg Bangor.
Bu ysgol annibynnol yn
neuadd yr eglwys am saith wythnos. Yna penderfynwyd meddiannu'r
ysgol a'r Fehefin 23ain. Gorymdeithiodd tua chant o
rieni a chefnogwyr i'r ysgol a'i meddiannu a chynnal ysgol annibynnol
yno tan yr haf.