| |
| Rhan o "Cofio'n ôl" Gruffudd
Parry |
"Awdurdod a grym gwladwrieth tu ôl iddo...
dyna pam y methodd y gwrthwynebiad i gau Ysgol y Sarn ac Ysgol y Rhiw
ac y daeth enw Bryncroes
yn wybyddus trwy Gymru yn niwedd y chwedegau.
Tacteg yr awdurdodau oedd ymddangos yn gwbl resymol a dangos pob cydymdeimlad.
Awgrymu yn garedig nad oedd rhieni yn gwybod dim byd am beth oedd orau
er lles eu plant ym myd addysg. Ond yr oedd y rebals wedi dysgu ambell
wers o brofiadau'r gorffennol erbyn hyn: gwybod beth oedd gwerth cyhoeddusrwydd
a gwybod nad oedd y Cyngor a'r Pwyllgor yn hoffi gorfod ateb cwestiynau
gwyr y wasg.
Ond un noson ac un bore sy'n aros yn glir yn y cof.
Rhwng un ar ddeg a hanner nos yn niwedd Awst, dyma lori (Griffiths y Glo,
Aberystwyth) o Ben-y-bont ar Ogwr yn cyrraedd a llwyth o fyrddau a chadeiriau
a desgiau ysgol i blant bach. Yr oedd y Pwyllgor Addysg wedi gwagio Ysgol
Bryncroes yn ystod gwyliau'r haf ac wedi ei chloi a'n gwahardd rhag mynd
mewn, ond yr oedd y rhieni'n unfryd nad oedd y plant yn mynd i Bont y Gof
- dewis y Pwyllgor Addysg - ac wedi penderfynu cynnal ysgol ar eu cost
eu hunain mewn hen ysgoldy yn perthyn i'r eglwys Sgoldy Bach.
Dodrefn ar gyfer Sgoldy Bach oedd y dodrefn hynny ac aelodau Cymdeithas
yr laith ifanc... wedi trefnu'r gymwynas ar ôl deall am ysgol (Ysgol
Gymraeg Trefor Morgan) ym Mhen-ybont oedd wedi cau a'r dodrefn i'w cael
am ddim ond eu cludo. Noson hapus iawn a'r hogiau hynny yn falch o swper
er ei bod hi'n berfeddion o'r nos. A'u brwdfrydedd yn magu hyder yn y rhieni
a phenderfyniad i ddal ati deued a ddêl.
Roedd y gobeithion yn uchel ac edrych mlaen am ddechrau' r tymor. Bu'r
ysgol yn llwyddiant, a chafwyd un o arolygwyr ei Mawrhydi wedi ymddeol
i ddod i gynnal arolwg, ac yr oedd ei hadroddiad yn foddhaol dros ben.
Ond yr oedd problemau yn codi ynglyn â'r adeilad a lles y plant wrth
i'r haf droi'n hydref a thywydd gerwin gaeaf yn dod ar ein gwarthaf. A
dyna barodd y bore bythgofiadwy hwnnw.
Yr oeddem wedi penderfynu mynd yn ôl i'r ysgol a defnyddio ein dodrefn
ein hunain gan ei bod wedi cael ei gwagio yn llwyr. Gofynnwyd am ganiatâd
y Pwyllgor Addysg a chael gwrthod anghwrtais a bygythiol. Ond daeth ein
cefnogwyr ni o Gymdeithas yr laith i'r adwy drachefn a dadlau mai'r plant
a'r rhieni oedd piau'r ysgol ac y dylid ei defnyddio i ddysgu'r plant ar
bob cyfrif ac y byddent yno yn barod i roi help llaw y bore Llun ar ôl
Gwyliau Diolchgarwch.
Pan gyrhaeddon ni'r pentre cyn naw ar y bore Llun niwlog yn griw bach petrus,
penderfynol, a sefyll rhyw dri chanllath o'r ysgol ar Ben 'Refail, siom
a dychryn oedd gweld car y plismyn yng nghanol y ffordd yn wynebu dau lidiart
yr ysgol a chadwyn drom a chlo arni yn ei diogelu.
Mae'n amlwg fod rhywun
wedi rhybuddio'r Awdurdod... Fedrwn ni ddim herio'r plismyn... Mae Sgoldy
Bach yna o hyd... Fydd dim ond....
Ond yn wyrthiol o sydyn daeth dau fachgen ifanc o'r gwrych y tu ôl
i gar yr heddlu, ac un arall o gyfeiriad arall, ac un arall. Cydio yn y
llidiardau a'u codi yn glir oddi am eu colynnau a'u dymchwel ar goncrid
yr iard nes bod eu swn yn diasbedain
drwy'r pentre.
Y ddau blismon yn dod allan o'r car, braidd yn bwyllog, a symud at yr adwy
agored. Ond yr oedd y 'troseddwyr' erbyn hyn wrth y drws cloedig a dwy
ysgwydd gref yn ei hyrddio yn agored a mynd i mewn, a thri neu bedwar arall
wedi
ymuno erbyn hyn a mynd i mewn a chau'r drws a'i fario ar eu holau.
Ninnau'n cychwyn i lawr o Ben 'Refail yn ddewr fel soldiwrs. Car heddlu
arall yn ymddangos yn ddisymwth a dau blismon a phlismon cap pig gloyw
yn dod allan ohono a'u bwriad ar fod o gymorth i'w cymrodyr...
Croesodd y Rhingyll atom ymhen yrhawg, yn amlwg yn deall y sefyllfa, ac
yn dweud nad oedd arwydd fod neb am amharu ar yr heddwch ac nad oedd angen
eu presenoldeb hwy. Ond ar ôl rhoi galwad ffôn i Gaernarfon
deallodd y byddai rhywbeth yn digwydd cyn bo hir ac y caem wybod. Aeth
cryn amser heibio. Blinodd yr heddlu, a'n gadael.
Daeth lori Cyngor Sir i lawr y ffordd cyn bo hir iawn ac aros gyferbyn â'r
arwydd oedd yn dweud 'School'. Daeth dau weithiwr allan a dechrau cloddio
o'i gwmpas a'i dynnu a'i roi yn y lori i fynd i ffwrdd. Gweithred weledol
ar ran y Pwyllgor Addysg i ddatgan nad oedd ysgol ym Mryncroes.
Rhybudd cyfreithiol yn bygwth achos llys a chostau a charchar orfododd
rieni Bryncroes i ildio'u hawl ar addysg eu plant yn y diwedd ......" |
| |
| |
| |
| |
| |
|