The Llais Gwynedd
Echo |
The
Voice of Gwynedd Manifesto 2008 |
LLAIS PENNAETH
Mae cyn-brifathro a gwrthwynebydd amlwg yn erbyn cynlluniau
cau ysgolion Cyngor Gwynedd wedi ymuno â Llais Gwynedd … llais y bobl
… gan benderfynu sefyll yn enw’r blaid newydd yn yr etholiadau
lleol ym mis Mai.
Dywed Bob Dorkins fu’n bennaeth Ysgol Crud y Werin, Aberdaron,
am 16 o flynyddoedd nad yw arweinwyr presennol Plaid Cymru ar y cyngor
yn gwerthfawrogi gwrthwynebiad gwerin gwlad i’w cynlluniau ac yn benderfynol
o gau ysgolion doed â ddêl.
“Rwyf wedi cefnogi Plaid Cymru ar hyd fy oes ond ddim
bellach,” meddai’r gŵr a ymddeolodd yn ddiweddar ar ôl treulio 35 o
flynyddoedd fel athro. “Rwy’n credu fod yr arweinwyr presennol yn agwedd
afiach tuag at addysg wledig, bywyd cefn gwlad a pharhad yr iaith Gymraeg," ychwanegodd.
Ym mis Hydref 2004 etholwyd Bob Dorkins gan brifathrawon ysgolion
cynradd ardal Dwyfor i’w cynrychioli ar weithgor ad-drefnu
ysgolion Cyngor Gwynedd ond ymddiswyddodd yn 2006 mewn protest yn
erbyn y hyn a welodd yn broses ymgynghori ffug.
“Roedd cynghorwyr a swyddogion blaenllaw
yn gwrthod gwrando ar y rhai ohonom oedd yn galw am chwarae teg a phroses
ymgynghorol dryloyw ac agored gyda llywodraethwyr a rhieni yngl?n â
dyfodol eu hysgolion,” ychwanegodd Bob Dorkins, fu’n amlwg
yn ei wrthwynebiad mewn cyfarfodydd protest yn erbyn cynlluniau Cyngor
Gwynedd.
“Rwy’n teimlo fod gormod o rym yn nwylo rhai unigolion ar y cyngor
sy’n amlwg wedi anghofio egwyddorion sylfaenol Plaid Cymru a gwarchod
ein cymunedau,” meddai.
Bydd Bob Dorkins yn sefyll etholiad yn ward Aberdaron yn yr etholiadau lleol ar Fai 1af. Mae'r ward yn cwmpasu pendraw Ll?n ac mae’n cynnwys ardaloedd Anelog, Y Rhiw, Rhoshirwaun ac Uwchmynydd, yn ogystal â phentref Aberdaron ei hun. Cynrychiolir y ward ar hyn o bryd gan gynghorydd Plaid Cymru, Gareth Roberts.
“Rwyf wedi dwys ystyried cyn penderfynu sefyll o dan faner Llais Gwynedd,” meddai Bob Dorkins. “Ond ni allwn ganiatáu i Blaid Cymru barhau ar ei thrywydd presennol gydag ysgolion gwledig heb roi dewis amgen gerbron trigolion ward Aberdaron ym mis Mai,” ychwanegodd.
Daw Bob Dorkins, sy’n briod gyda dau fab, yn wreiddiol o Bwllheli a bu’n athro ysgol uwchradd yn Lerpwl a Phowys cyn ei benodi’n brifathro Ysgol Pennant, Pen-y-bont Fawr yn Maldwyn ac yna yn Ysgol Crud y Werin.
“Rydan ni’n eithriadol hapus cael croesawu Bob Dorkins i’n plith,” meddai’r Cynghorydd Seimon Glyn, sy’n cynrychioli Tudweiliog ar ran Llais Gwynedd ar y Cyngor Sir. “Bydd ei brofiad ym maes addysg yn amhrisiadwy a phwy well i arwain y frwydr dros amddiffyn ein hysgolion gwledig sy’n rhan mor annatod o’n cymunedau,” ychwanegodd.
HEAD STANDS
A former headmaster and a vociferous
opponent of Gwynedd Council’s
school closure plans has joined Llais Gwynedd … llais y bobl … and
is standing in May’s local government elections.
Bob Dorkins,
who was head of Ysgol Crud y Werin, Aberdaron, for 16 years, says the
incumbent leaders of the Plaid Cymru-run council have lost touch with
public opinion and are determined to close schools without hesitation.
“I’ve been a Plaid Cymru supporter all my life but not
any more,” said the recently retired teacher with 35 years’ service
in the classroom under his belt.
“I believe the party’s present leaders have an abhorrent
disregard of Gwynedd’s community based schools and the county’s
rural life in general,” he said.
In October 2004 Bob Dorkins was elected by the Dwyfor area primary school headmasters to be their representative on Gwynedd Council’s schools’ reorganisation working party but resigned in 2006 in protest against what he perceived to be a sham.
“Leading councillors and officials just refused to listen to those us of us that called for fair play and a transparent and open consultation with parents and governors on the future of their schools,” added Bob Dorkins who has been vocal in public meetings opposing Gwynedd Council’s plans. “I believe there are individuals on the council who hold too much power and seem to have forgotten Plaid Cymru’s founding principles that put our communities first,” he said.
Bob Dorkins will stand for the election in the Aberdaron ward in the local government election on May 1st. The ward covers the tip of the Ll?n Peninsula and comprises of the communities of Anelog, Pencaerau, Rhiw, Rhoshirwaun and Uwchmynydd, as well as the village of Aberdaron itself. Presently the ward in represented by Plaid Cymru councillor, Gareth Roberts.
“I’ve given a great deal of thought before deciding on standing under the Llais Gwynedd banner,” said Bob Dorkins. “But I just could not allow Plaid Cymru’s present course of action on rural schools to continue without offering the people of the Aberdaron ward an alternative choice come May’s election,” he said
Bob Dorkins, who is married with two grown-up sons, is originally from Pwllheli and was a secondary school teacher in Liverpool and Powys before being appointed primary school headmaster in the Montgomeryshire village of Pen-y-bont Fawr before taking up a similar position in Ysgol Crud y Werin, Aberdaron.
“We’re extremely happy to welcome Bob Dorkins to our ranks,” said Councillor Seimon Glyn, who is a Llais Gwynedd councillor representing Tudweiliog ward. “His experience in education will be invaluable and who better to take a lead in the defence of our rural schools that are such an integral part of our communities,” he added
Ffurflen Aelodaeth |
||
Membership
Form |