Rhan o "Cofio'n ôl" Gruffudd Parry 
"Awdurdod a grym gwladwrieth tu ôl iddo... dyna pam y methodd y gwrthwynebiad i gau Ysgol y Sarn ac Ysgol y Rhiw ac y daeth enw Bryncroes yn wybyddus trwy Gymru yn niwedd y chwedegau.

Tacteg yr awdurdodau oedd ymddangos yn gwbl resymol a dangos pob cydymdeimlad. Awgrymu yn garedig nad oedd rhieni yn gwybod dim byd am beth oedd orau er lles eu plant ym myd addysg. Ond yr oedd y rebals wedi dysgu ambell wers o brofiadau'r gorffennol erbyn hyn: gwybod beth oedd gwerth cyhoeddusrwydd a gwybod nad oedd y Cyngor a'r Pwyllgor yn hoffi gorfod ateb cwestiynau gwyr y wasg.

Ond un noson ac un bore sy'n aros yn glir yn y cof.

Rhwng un ar ddeg a hanner nos yn niwedd Awst, dyma lori (Griffiths y Glo, Aberystwyth) o Ben-y-bont ar Ogwr yn cyrraedd a llwyth o fyrddau a chadeiriau a desgiau ysgol i blant bach. Yr oedd y Pwyllgor Addysg wedi gwagio Ysgol Bryncroes yn ystod gwyliau'r haf ac wedi ei chloi a'n gwahardd rhag mynd mewn, ond yr oedd y rhieni'n unfryd nad oedd y plant yn mynd i Bont y Gof - dewis y Pwyllgor Addysg - ac wedi penderfynu cynnal ysgol ar eu cost eu hunain mewn hen ysgoldy yn perthyn i'r eglwys Sgoldy Bach.

Dodrefn ar gyfer Sgoldy Bach oedd y dodrefn hynny ac aelodau Cymdeithas yr laith ifanc... wedi trefnu'r gymwynas ar ôl deall am ysgol (Ysgol Gymraeg Trefor Morgan) ym Mhen-ybont oedd wedi cau a'r dodrefn i'w cael am ddim ond eu cludo. Noson hapus iawn a'r hogiau hynny yn falch o swper er ei bod hi'n berfeddion o'r nos. A'u brwdfrydedd yn magu hyder yn y rhieni a phenderfyniad i ddal ati deued a ddêl.

Roedd y gobeithion yn uchel ac edrych mlaen am ddechrau' r tymor. Bu'r ysgol yn llwyddiant, a chafwyd un o arolygwyr ei Mawrhydi wedi ymddeol i ddod i gynnal arolwg, ac yr oedd ei hadroddiad yn foddhaol dros ben. Ond yr oedd problemau yn codi ynglyn â'r adeilad a lles y plant wrth i'r haf droi'n hydref a thywydd gerwin gaeaf yn dod ar ein gwarthaf. A dyna barodd y bore bythgofiadwy hwnnw.

Yr oeddem wedi penderfynu mynd yn ôl i'r ysgol a defnyddio ein dodrefn ein hunain gan ei bod wedi cael ei gwagio yn llwyr. Gofynnwyd am ganiatâd y Pwyllgor Addysg a chael gwrthod anghwrtais a bygythiol. Ond daeth ein cefnogwyr ni o Gymdeithas yr laith i'r adwy drachefn a dadlau mai'r plant a'r rhieni oedd piau'r ysgol ac y dylid ei defnyddio i ddysgu'r plant ar bob cyfrif ac y byddent yno yn barod i roi help llaw y bore Llun ar ôl Gwyliau Diolchgarwch.

Pan gyrhaeddon ni'r pentre cyn naw ar y bore Llun niwlog yn griw bach petrus, penderfynol, a sefyll rhyw dri chanllath o'r ysgol ar Ben 'Refail, siom a dychryn oedd gweld car y plismyn yng nghanol y ffordd yn wynebu dau lidiart yr ysgol a chadwyn drom a chlo arni yn ei diogelu.

Mae'n amlwg fod rhywun wedi rhybuddio'r Awdurdod... Fedrwn ni ddim herio'r plismyn... Mae Sgoldy Bach yna o hyd... Fydd dim ond....

Ond yn wyrthiol o sydyn daeth dau fachgen ifanc o'r gwrych y tu ôl i gar yr heddlu, ac un arall o gyfeiriad arall, ac un arall. Cydio yn y llidiardau a'u codi yn glir oddi am eu colynnau a'u dymchwel ar goncrid yr iard nes bod eu swn yn diasbedain drwy'r pentre.

Y ddau blismon yn dod allan o'r car, braidd yn bwyllog, a symud at yr adwy agored. Ond yr oedd y 'troseddwyr' erbyn hyn wrth y drws cloedig a dwy ysgwydd gref yn ei hyrddio yn agored a mynd i mewn, a thri neu bedwar arall wedi ymuno erbyn hyn a mynd i mewn a chau'r drws a'i fario ar eu holau.

Ninnau'n cychwyn i lawr o Ben 'Refail yn ddewr fel soldiwrs. Car heddlu arall yn ymddangos yn ddisymwth a dau blismon a phlismon cap pig gloyw yn dod allan ohono a'u bwriad ar fod o gymorth i'w cymrodyr...

Croesodd y Rhingyll atom ymhen yrhawg, yn amlwg yn deall y sefyllfa, ac yn dweud nad oedd arwydd fod neb am amharu ar yr heddwch ac nad oedd angen eu presenoldeb hwy. Ond ar ôl rhoi galwad ffôn i Gaernarfon deallodd y byddai rhywbeth yn digwydd cyn bo hir ac y caem wybod. Aeth cryn amser heibio. Blinodd yr heddlu, a'n gadael.

Daeth lori Cyngor Sir i lawr y ffordd cyn bo hir iawn ac aros gyferbyn â'r arwydd oedd yn dweud 'School'. Daeth dau weithiwr allan a dechrau cloddio o'i gwmpas a'i dynnu a'i roi yn y lori i fynd i ffwrdd. Gweithred weledol ar ran y Pwyllgor Addysg i ddatgan nad oedd ysgol ym Mryncroes.

Rhybudd cyfreithiol yn bygwth achos llys a chostau a charchar orfododd rieni Bryncroes i ildio'u hawl ar addysg eu plant yn y diwedd ......"