Gwefan Fforwm Llywodraethwyr Llŷn
Mae’r Fforwm yn agored i holl Ysgolion Tal-gylch Botwnnog sef Nefyn, Morfa
Nefyn, Edern, Tudweiliog, Llidiardau, Aberdaron, Mynytho, Llanbedrog, Sarn
Bach, Abersoch,
Cynrychiolaeth bob ysgol fydd - y Pennaeth, Cadeirydd 2-3 aelod o’r llywodraethwyr
a fydd yn cael eu hethol mewn cyfarfod o lywodraethwyr yr ysgol.
Bydd y cadeirydd
yn cael ei ddewis o blith y Cadeiryddion neu Benaethiaid yn flynyddol, gan
roi cyfle cyfartal i bob ysgol.
Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar gais un ysgol neu fwy.
Gofynnir am gyflwyno materion i’w trafod ymlaen llaw drwy gysylltu gyda’ r
ysgrifennydd.
Y cworwm fydd 60% o’r ysgolion.
Ail-sefydlwyd Fforwm Llywodraethwyr Llŷn yn arbennig er mwyn ymateb
i ymgynghoriad Cyngor Gwynedd ar ad-drefnu ysgolion.
Yn ystod yr ymgynghoriad mae Cyngor
Gwynedd wedi methu ateb ein cwestiynau na lleddfu ein pryderon. Wrth gyhoeddi
y cynlluniau i ad-drefnu y mae wedi dod yn gwbwl amlwg bod ein barn wedi
ei llwyr anwybyddu a fod y cynllun yn gwbwl groes i 'n dyheadau.
Y bwriad yw cau naw allan o'r un ar ddeg o ysgolion Llŷn ac agor dwy ysgol
ffederal.
Y mae
pryder gwirioneddol am y cynlluniau drwy Wynedd gyfan gyda gwrthwynebiadau ac
amheuon difrifol yn cael eu mynegi yn Eifionydd, Arfon a Meirionydd hefyd. Bydd
effeithiau y cynllun yn bellgyrhaeddol, ac mae gofyn ail-ystyried yr holl fater.
Os oes gennych sylwadau neu wybodaeth
berthnasol gellir ei bostio ar yr hysbysfwrdd neu
drwy anfon e-bost
.
O'r Wasg
Y mae'r dudalen hon yn cynnwys erthyglau o bapurau newydd . O'r
wasg
Dogfennau
Y mae'r dudalen hon yn llawn dogfennau perthnasol - Llythyrau, Munudau cyfarfodydd,
ystadegau ayyb.'. Dogfennau
Hanes
Y mae'r dudalen
hon yn bod er mwyn cadw mewn cof y safiad
dewr a wnaed ym Mryncroes yn niwedd y 60au.
Defnyddiwyd erthyglau o bapurau newydd yn y cyfnod, rhannau
o draethawd Richard Thomas Meillionydd Mawr, llyfr 'Cofio'n ôl'
Gruffudd Parry ac erthygl Emyr Llewelyn yn 'Y Faner Newydd'.
Hanes
Fforwm ar-lein
Mae'r wefan hon yn gyfle i drigolion Gwynedd, godi cwestiynau a holi
barn er mwyn cynnal trafodaeth ar sut orau i gynnal addysg gynradd o ansawdd
at y dyfodol. Mae gwahoddiad i gynghorwyr Gwynedd a swyddogion gwasanaethau
addysg ymateb neu gyfrannu mewn fforwm agored. Fforwm
Ar-lein Agored
|