1

2

3
Cliciwch ar y lluniau am fersiynau mwy
Click on these thumbnails for more views

Mantell Dramor
Painted Lady
(Vanessa cardui)

Glöyn byw lliwgar sy'n perthyn i deulu'r Nymphalidae yn urdd y Lepidoptera yw Iar Fach Dramor, neu mantell dramor, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll tramor; yr enw Saesneg yw Painted Lady, a'r enw gwyddonol yw Vanessa cardui.Un o'i nodweddion hynotaf yw ei bod yn hedfa ar ffurf sgriw. Mae'n ymweld â gwledydd Prydain ym Mai a Mehefin. 

 Caiff ei fagu'n aml iawn mewn ysgolion er mwyn dangos cylch bywyd y glöyn byw. Pan fo'r tymheredd oddeutu 90 F mae'r cylch bywyd yn cymryd tua 16 diwrnod. Pan fo'n 65 F yna fe all gymeryd misoedd i'r wyau ddeor. Pan fo'r tymheredd yn gyson e.e. ystafell mewn ysgol, mae'n cymryd 3 - 5 diwrnod i ddeor. Maint grisial o siwgwr ydy'r ŵy, lliw gwyrdd. Gyda chwydd wydr gellir gweld y ceuad ar yr ŵy - ble mae'r siani flewog am ymddangos. Ar ôl 7 - 11 diwrnod mae'n troi'n chwiler a 7 - 11 diwrnod arall cyn ymddengys y glöyn byw. 2 fodfedd ydy lled adenydd yr oedolyn, ar ei eithaf.

Not a true native as it cannot survive the winter here, this butterfly sometimes flies over from Europe and North Africa in great numbers. Called 'Painted Lady' after the patch of pink, looking like rouge, next to the body on the underwing.
The caterpillar can feed on Stinging Nettle, but prefers thistles.