1

2


3


4

1.8Mb

 
Cliciwch ar y lluniau am fersiynau mwy
Click on the pictures for more views

Pioden y Môr
Oyster catcher
(Haematopus ostralegus)

enwau lleol :- Bilcoc, Saer, Twm Pib, Llymarchog.

Pioden Fôr (Haematopus ostralegus) yw'r unig aelod o deulu'r Haematopodidae, y piod môr, sydd i'w gael yn Ewrop, lle mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus ger glan y môr. Fe'i gwelir ar hyd y glannau moroedd yn bwyta rhwng y llanw. Y mae yr oedolion yn paru am oes ac yn deor un brwd o 3-4 o wyau, y maent yn dodwy mewn pant yn y graig ar y lan neu graig allan yn y môr yn gynnar ym mis Mai.
Mae tair is-rywogaeth yn nythu yng ngorllewin Ewrop, yn nwyrain Ewrop a gogledd Asia, Tsieina a Corea. Mae'n aderyn mudol fel rheol, ac mae llawer o adar yn symud i Ogledd Affrica yn y gaeaf, er fod cryn nifer yn gaeafu o gwmpas Prydain ac Iwerddon.
Aderyn hawdd ei adnabod yw'r Bioden fôr, gyda chefn du a bol gwyn, pig mawr coch a choesau coch. Mae'r adar ieauanc yn fwy brown o ran lliw, a anodd gweld ar y creigiau. Mae'n byw ar gregyn a phryfed y mae'n ei ddarganfod ar lan y môr fel rheol, ac mae'n arbenigwr ar agor cregyn o wahanol fathau. Yn ddiddorol, mae rhai adar yn arbenigo mewn rhoi y pig i mewn rhwng dau hanner y gragen i'w hagor, tra mae eraill yn torri twll trwy'r gragen, ac mae siâp y pig yn wahanol yn ôl y dull mae'r aderyn hwnnw yn ei ddefnyddio.
Gall y Bioden fôr fyw am flynyddoedd lawer - mae cofnod o rai dros 40 mlwydd oed.Yng Nghymru mae nifer cymharol fychan yn nythu, ond llawer mwy yn dod i'r traethau neu gwastadeddau llaid i dreulio'r gaeaf.


Oystercatcher (Haematopus ostralegus) is the only member of the Haematopodidae family, the oystercatcher, found in Europe, where it is a common and well-known seabird. It is found along the shores of seas eating between the tides. The adults mate for life and hatch a single brood of 3-4 eggs, which they lay in a dip in the rock on the shore (called a scrape) or a rock out in the sea in early May.
Three subspecies breed in western Europe, in eastern Europe and northern Asia, China and Korea. It is usually a migratory bird, and many birds migrate to North Africa in the winter, although there are considerable winters around Britain and Ireland.
The Oystercatcher is an easily recognizable bird, with a black back and white belly, a large red beak and red legs. The young birds are more brown in color, and hard to see on the rocks. He lives on shells and insects that he usually finds on the seashore, and is an expert at opening shells of various kinds. Interestingly, some birds specialize in inserting the beak between the two halves of the shell to open it, while others cut a hole through the shell, and the shape of the beak differs depending on the way the bird uses it.
The Oystercatcher can live for many years - there are a record of over 40s. In Wales there are relatively small numbers of breeding, but many more come to the beaches or mudflats to spend the winter.