Cliciwch ar y lluniau am fersiynau mwy
Click on the pictures for more views


1

2



   

 
Cliciwch ar y lluniau am fersiynau mwy
Click on the pictures for more views

Gwennol y bondo
House Martin
(Delichon urbica)

enwau lleol :- Gwennol y bargoed, Gwennol y muriau.


Mae Gwennol y Bondo yn aelod o'r teulu Hirundinidae, y gwenoliaid, yn gyffredin trwy ran helaeth o Ewrop ac Asia. Mae'n aderyn mudol, gyda'r rhan fwyaf yn treulio'r gaeaf yn Affrica. Mae'n aderyn eithaf tebyf i'r Wennol o ran lliw, ond yn hawdd ei adnabod oherwydd y darn mawr gwyn uwchben y gynffon. Mae'r gynffon yn fyrrach na chynffon y Wennol. Fel rheol gwelir yr adar cyntaf yn Cymru tua dechrau ebrill, er ei bod yn ddiwedd Ebrill cyn i'r rhan fwyaf gyrraedd.
Fel rheol mae'n adeiladu'r nyth, sydd wedi ei wneud o fwd, ar dai, o dan y bondo, ac mae nifer o barau yn nythu gyda'i gilydd. Mae'n debyg mai ar glogwyni roedd Gwennol y Bondo yn nythu'n wreiddiol, ac mae ambell un yn parhau i wneud hynny.


The House Martin is a member of the Hirundinidae family, swallows. They are common throughout much of Europe and Asia. It is a migratory bird, with most spending the winter in Africa. It is a fairly similar bird to the Swallow in color, but easily recognizable by the large white patch above the tail. The tail is shorter than the Swallow's tail.
The first birds in Europe are usually seen in early April, although it is late April before most arrive. They usually build the nests, made of mud, on houses, under the eaves, and several pairs nest together. The House Martin probably originally nested on cliffs, and some continue to do so.