Eglwys
Llanengan Church |
|
Saif Eglwys blwyf Sant Engan neu Sant Einion (Frenin) ym mhentref Llanengan. Mae'r adeilad yn perthyn yn bennaf i ddiwedd y 15fed ganrif a dechrau'r 16eg ganrif, ac ychwanegwyd y twr yn 1534. Yn y Canol Oesoedd roedd yn gyrchfan boblogaidd i bererinion, ar y cyd ag Abaty'r Santes Fair ar Ynys Enlli, man yr oedd ganddi gysylltiadau ag ef. Uwchben y drws gorllewinol ceir dwy linell o lythrennau codi yn yr iaith Ladin sy'n cofnodi blwyddyn adeiladu'r twr. Yn yr eglwys mae cist, sef Cyff Engan, sydd wedi ei cherfio o un trawst bras o bren ac wedi'i rhwymo. Ceir agen fawr yn y caead i roi arian ond mae ei dyddiad yn ansicr (efallai canoloesol). CYWYDD
EINON FRENIN Y
Crefyddwr cryf addwyn, Aur yw dy fedd er dy fwyn; Einion Fawr, Einion freiniol Freiniol a'th werin o'th ôl, Dawnus fab Owen Danwyn, Dywysog llaw eurog yn Lleyn: Wyr awn â chwyr i'n iachau', Einion Yrth yr un wyrthiau; Wyr Guneddaf, araf wyd - Wedig, rhinweddawl ydwyd. Mae'th Eglwys fawr yn llawr Lleyn, Mwy yw'r adal ym Mrydyn: Seintiwr Einion, Sant Driniaw, Sy'n bur dros yr Hymbur draw; Mawr a theg y'th anrhegwyd, Wrth Fôr Udd - mawr werthfawr wyd; Gwnaethost yn dy wlad adail, Gorsedd ar Wynedd yw'r ail. Mai Tudwal yn d'ardal di, A'th wenllaw im' wrth Enlli; Gorphenaist Gaer y Ffynnon; A thw'r rhudd it' wneuthur hon; Deugain saer i'th dy gwyn sydd, Deri a main o dri mynydd; Ac aur lle'r wyd yn gorwedd, A roed o Fôn ar dy fedd. Dynion sy'n cael daioni, Dydd tâl yw pob dydd i ti: Pob Cristion gwirion a gwâr Di a'i cyrchaist o'u carchar; Dy Eglwys a gynnwys gwan, Dy gôr i'w doi ag arian; Dy lun a dalai Wynedd, Iechyd i fil uwch dy fedd; Ac aur sydd o flaen ac ôl Ar dy grys, wr da grasol. Bychan gyda d'arian dau Gan' allor o ganwyllau: Holl wragedd Gwynedd a'u gwyr I'th byrth gyda'th aberthwyr; A'th nawdd-dir a'th annedd-dai I bawb a roed i bob rhai, A'th blwyf urddasol a'th b'las, A'th arddwyr, cânt fyth urddas; A'th oror a'th ddaiarydd, A'r Môr Soch, tir mawr y sydd; Mor-dir, a ph'lasoedd mawrdeg, Meibion, merched, tored teg; Glân yw'r ddôl glain ar ddolef, Gardd a wnaeth y gwir Dduw nef; Mae'n llawr hon main allor haf, Medrodau mal modrydaf; Os gwelir megys gwiwlain Esgyrn mewn ysgriniau main, Minnau af â cherdd dafawd Atyn' fry, a'u tyn y frawd At Ieuan abat dwyol, 0 ganon nef gwnawn iw ôl: Mae brodorion uwch Conwy, 0 ugain mil ac un mwy; Brytwn yw, brawd Dewi ner, Brawd Durdan, bwriad dewrder. Dianel chweg Daniel chwyrn, 'Y mrawd yw ym mro Dêyrn: Beuno mab da ei benwn, Derfel ab Hywel heb hwn; Gwyr rin waed gwerein ydynt, Gwyr un dad gwerin Duw ynt. Eithr od alaeth olwg Athrod draw mewn gweithred drwg, Paren' a deisyfen sant, I'm ddiwedd a maddeuant. |
The Parish Church of St. Engan or St. Einion (Frenin) stands in the village of Llanengan in Llyn. The structure is mainly of the late 15C and early 16C, the tower being an addition of 1534. In the Middle Ages it was popular as a place of pilgrimage in conjunction with the Abbey of St. Mary on the island of Bardsey with which it has connections. It was
restored in 1847, and further repairs were carried out in the 1930's,
and more recently in 1968-72. St. Engan was reopened
for worship in September, 1973, by the Archbishop of Wales. The Bells also have a romantic history. There is a legend or tradition that the bells were brought from the Abbey of St. Mair on Bardsey. There are three bells, one bearing the date 1624 and the other two 1664. Two are inscribed, one bearing the words "St. Einion Rex Wallia et Actus Scotorum"'. The tower housing the bells is of three floors. Above the west doorway in two lines of raised letters is a Latin inscription recording the building of the tower. 'This (little) belfry was built in honour of St. Einion, King of Wales, Apostle of the Scots A.D. 1534 IHS'. In the Church is a chest known as 'Cyff Engan' which is dug out of a single baulk of timber, and bound. The lid has a large slot for coins, but the date is uncertain (possibly mediaeval). *Poem written in the Welsh strict metre. Yn ôl Cefn Coch MSS, mae Ilinellau 16-22 yn darllen fel hyn: Wrth
fôr rhydd mor werthfawr wyd,
|
|
© penllyn.com
2000-3
|