bryncroes

  

Capel Ty Mawr i'r gorllewin o bentref Bryncroes - yr achos cyntaf i'r Methodistiaid Calfinaidd ei sefydlu yn Llyn ar ol ymweliad Howell Harris ym 1747. Yr adeilad cyntaf gyferbyn a'r capel presennol - adeilad bychan to gwellt.

Y capel fel y mae heddiw wedi ei godi tua 1840 a Siarl Marc (1720- 1795) yn un o'r 'cynghorwyr' amlycaf yn gofalu am y seiadau yn Llyn. Wyr i Siarl Marc oed Ieuan Llyn uchod, Bardd Bryncroes, yn fab i Mari Siarl, merch Siarl Marc. Ymfudodd hi a'r teulu i'r America a gadael y mab Evan (Ieuan Llyn) i gael ei fagu gyda'i daid, Siarl Marc yn Nhy Mawr.

Ty Mawr Chapel to the east of Bryncroes- the first chapel to be established in Llyn by the Calvinist Methodists after the visiting of Llyn by Howell Harris in 1747. The original chapel- a small thatched building, was situated across the road from the present chapel.

The Chapel as it is today was built around 1840. Siarl Marc (1720-1795) was one of the most visible 'councilors' responsible for the fellowship meetings in Llyn. Ieuan Llyn the Bard was the grandchild of Siarl Marc, he was left in his Grandfathers care when his mother Mari Siarl left with the family for America. He was bought up with his grandfather in Ty Mawr.

Ty Mawr oedd Capel cyntaf y Methodistiaid yn Sir Gaernarfon. Adeiladwyd addoldy yn y llecyn hwn yn 1752 ac ymddengys fod yr Hen Gapel dros y ffordd i’r adeilad presennol. Capel syml isel ydoedd gyda tho gwellt. Tarddodd yr eglwys o Seiat Bryncroes a ymgynullai ar y pryd yng nghartref Siarl Marc, yn ffermdy Ty Mawr, ac ymddengys mai ef oedd y prif ysgogydd i adeiladu capel. Bu’n wr dylanwadol iawn yn Llyn a thystia ysgrifenwyr fel Henry Hughes, Bryncir, a Robert Jones, Rhoslan. ei fod yn “gynghorwr” doeth ac yn bregethwr nerthol. Dan ei arweiniad ef daeth Ty Mawr yn ganolfan i’r Methodistiaid ac ‘r oedd ei ddisgynyddion yn ddawnus a galluog.

Prydyddai ei ferch Mary Charles a mab iddi hi oedd Ieuan Lleyn. Bu Ieuan Lleyn yn byw gyda’i daid am gyfnod yn fferm Ty Mawr a datblygodd i fod yn fardd galluog. Parheir i ganu rhai o emynau Siarl Marc a Ieuan Lleyn.

Ymysg ymddiriedolwyr y capel cyntaf ‘r oedd Daniel Rowland, Siarl Marc, Evan Roberts, Llangwnnadl a John Griffith, Tudweiliog. Cofnodwyd hanes yr eglwys mewn llyfryn , Ty Mawr, Llyn, a gyhoeddwyd i ddathlu’r deucanmlwyddiant yn 1948, gan Thomas Richards. Ceir llawer o ffeithiau ynglyn a’r achos yn llyfr y Parchg. Goronwy P.Owen, Methodisitiaid Llyn ac Eifionydd (1978) a chydnabyddir y ddyled i’r gyfrol am ddeunydd i’r ysgrif hon.

Adeiladwyd y capel presennol rhwng y blynyddoedd 1799 ac 1801. Yr adeiladydd oedd Richard Siarl Marc, mab ieuengaf Siarl Marc. ‘R oedd y gwaith yn cael ei arolygu gan William Jones, Coch-y-Moel, gwr a ddaeth yn amlwg yn hanes Wesleaeth Llyn. Mae’r Capel presennol yn sylweddol yr un fath a’r ty a adeiladwyd yn agos i ddwy ganrif yn ol.


Anodd i’r anghyfarwydd a fyddai cael hyd i gapel Ty Mawr. Lleolwyd ef ym mherfeddion gwlad Llyn a’r ffordd symlaf i ddod ato yw trwy droi i’r dde ar ol teithio rhyw filltir am Aberdaron o bentref Sarn. O holl gapeli’r Methodistiaid yn Llyn ac Eifionydd, Ty Mawr a Brynengan yw’r unig ddau adeilad sydd ar gynllun traddodiadol.

Ceir y ddau ddrws ym mur lletaf yr adeilad a’r pulpud yn y canol rhwng y drysau. Yn wyneb y capel gwelir llechen las ac arni’r dyddiad 1799 a’r geiriau ysgrythyrol: “Pregetha’r Gair bydd daer”. “Gwrandewch a bydd byw eich enaid”. Ymddengys fod yma lofft i’r Capel ar un adeg a gellir gweld olion y grisiau a arweiniai yno ym mur yr adeilad presennol.

Mae nifer o nodweddion yn y Capel ar wahan i’w bensarniaeth sy’n rhoi naws hynafol iddo megis yr hen gloc yn uchel ar y mur a’r garreg yn union gyferbyn a’r pulpud ac arni’r geiriau: “Cofiwch y Morwyr”.


RHESTR GYFLAWN O WEINIDOGION EGLWYS TY MAWR


W.R.JONES (GOLEUFRYN)
Brodor o Lanfrothen, ei ofalaeth gyntaf, 1869-1873, gweinidog hefyd ar Eglwysi Pen y Graig, Brynmawr a Rhydbach, symudodd i Lanrwst.


DAVID ROBERTS
Brodor o Feddgelert, 1877-1880, daeth yma o ofalaeth Prenteg, nid oes wybodaeth ar hyn o bryd a oedd yn weinidog ar yr oll o’r eglwysi enwir uchod, symudodd i Abererch a Brynbachau.


R.LLOYD EDWARDS
Brodor o Gefnmeiriadog, Dyffryn Clwyd, 1914-1919, ei ofalaeth gyntaf, dim ond Pen y Graig oedd yn ychwanegol at Dy Mawr yn ei ofalaeth, symudodd i Nantglyn, Dyffryn Clwyd.


R.E.OWEN
Brodor o Aberpennar, Morgannwg, ei ofalaeth gyntaf, 1932-1936, gweinidog ar eglwys Pen y Graig hefyd,symudodd i ofalu am eglwys Bryn Menai, Y Felinheli.


FFOWC WILLIAMS,B.A.
Brodor o Dalysarn, Dyffryn Nantlle, 1931-1933, daeth yma o ofalaeth Llanfrothen, gweinidog ar Ben y Graig hefyd, symudodd i ofalaeth Bontuchel, Dyffryn Clwyd ynghyd a Chlocaenog.


O.D.WILLIAMS,B.A.,B.D.
Brodor o Bentir.Arfon, ei ofalaeth gyntaf, 1945-1951, gweinidog ar eglwys Pen y Graig hefyd, symudodd i ofalaeth ‘Ebeneser’, Kingsland, Caergybi.


J.BENNET JONES,M.A.

Brodor o Rhyl, ei ofalaeth gyntaf, 1961-19 , gweinidog ar eglwysi Pen y Graig, Saron, Rhoshiwaun a Rhydlios, symudodd i ofalaeth Llanfairpwll, Ynys Mon.

 

 
 

 

 

© penllyn.com 2000-3