Ym
Mhorth Ty Mawr, yr aeth y "Stuart" i helbulon; mae'r
hanes hwn hefyd wedi ei groniclo yng nghyfres deledu "Almanac".
Yr hyn sy'n tynnu'r holl sylw at y llongddrylliad hwn yw mai
wisgi oedd cyfran go dda o'r cargo. Canlyniad hyn fu rhoi enw
newydd i'r fan, sef Porth Wisgi. Mae'n debyg y bu cryn ysbeilio
yma, a'r pictiwr a gawn yw fod pawb, o'r byd a'r betws, am y
gorau unai yn casglu'r poteli neu yn yfed cymaint ag oedd modd.
'Does dim amheuaeth na fu 1901 yn dipyn o flwyddyn yn y fro
a mynegwyd cryn bryder yng Nghyfarfod Ysgol Dosbarth Pen LIyn.
Gosodwyd y testun "Ysgrif fer ar gychwyniad, a drylliad
y llong 'Stuart' ar greigiau Porth Ty Mawr, Llyn" yng Nghymldeithas
Lenyddol Pen y Graig yn 1925 a gwelir y pryder am safonau moesol
y trigolion yn parhau chwarter canrif yn ddiweddarach. Disgrifia'r
buddugol, J. 0. Roberts, Ty Mawr Penllech mewn sobrwydd y sefylllfa
a dyfynnaf ef heb ddiweddaru'r orgraff,
Yr oedd "staen" y gwaed ar y wefus, yn profi nad oedd
gan ambell un ddim at dynnu corcyn or botel, felly nid oedd
dim iw wneud ond taro ei gwddf yn y graig, ac arllwys yr hylif
poeth ir cylla heb gofio am y gwydr miniog! mewn lle ychydig
or neulltu yr oedd "cask", ac wedi taro ei dalcen
i mewn, canfuwyd yn ebrwydd pa beth oedd ei gynwysiad- "wisgi"
"angen yw mam dyfais"- medd hen air, - wele un yn
tynu ei esgid ac yn ei yfed o hono fel or "glass"
gore allan un arall gyda'i flwch myglus, etc. pawb yn hwyluso
y gwaith o'i wagio. Gerllaw yr oedd ffrwd fechan loyw-ber fel
grisial, yn sisial rhwng y cerrig; ac yn llifo dros y bistylloedd
bychain dros y creigiau i lawr tua'r môr, a'i llwybr mor
laned a'r awyr ond yr oedd yn well gan ddyn serio ei gylla,
pylu ei ymenydd, haearneiddio ei gydwybod, a hyrddio ei enaid
i ddinistr bythol guda hylif y "cask", yn hytrach
na manteisio ar ddiod Duw, - dwr. 0 ynfydrwydd - a pha hyd?
Bu'r baledwyr yn brysur hefyd, a phan osodwyd y digwyddiad hwn
yn destun yn Eisteddfod y Rhos yn 1902, John Owen, Brychdir
ddaeth yn fuddugol.
Ceir peth o hanes y "Stuart" yn "BIas Hir Hel"
a hefyd fe'i crybwyllir yn "Pigau'r Sêr". Yn
ôl darlith Robin Gwyndaf ymwelodd Serah Trenholme, â'r
fan a gwelodd yr ysbeilio. Cefais ei hanes yn fanwl gan fy ewythr.
Evan John Griffith, gan fod nodiadau Hugh W. Jones, Bryn Villa
ganddo. Roedd Hugh Jones Bryn yn llygad-dyst i'r cyfan ac yn
gofnodwr manwl.
Cychwyn wnaeth hi o Lerpwl i Seland Newydd ar Wener y Groglith
1901 gyda chriw o 19 a'i swyddogion ifanc. Mae'n rhaid mai diffyg
profiad oedd yn fwyaf cyfrifol am y "ddamwain" gan
nad oedd y tywydd yn ddrwg, niwi a glaw mân yn ôl
y sôn, a dim byd gwaeth. Credid y byddai modd ei hwylio
eilwaith ar ôl iddi ddod i'r lan, ond ymhen ychydig ddyddiau
cododd gwynt o'r môr a thorri ei mastiau a'r rheini yn
eu tro yn disgyn ar y llong a'i hagor. Canlyniad hyn fu gwasgaru'r
cargo oedd yn cynnwys llestri, wisgi, stowt, canhwyllau, matsus,
pianos, gorchuddiau lloriau ac yn y blaen. Mae'r llestri i'w
gweld hyd dreselydd yr ardal heddiw ac mae rhai poteli or wisgi
yn dal heb eu hagor.
Mae un o diwbiau'r "Stuart" i'w weld yn glir yn y
creigiau melynion heddiw, a daw peth ohoni i'r golwg ar dreiau
mawr.
Un o'r ffactorau oedd yn gyfrifol am y trafferthion yr aeth
y "Stuart" iddynt oedd i'w chel fynd ar draws llong
arall oedd yn gorwedd o dan y dwr. Y "Sorrento"- *
|
It
was at Porth Ty Mawr that the "Stuart" ran into trouble.It
was because of the cargo of whisky that was onboard that the
bay was re-named Porth Wisgi. She had set sail from Liverpool
on a passage to New Zealand on Good Friday 1901 with a crew
of 19 with three young officers. According to accounts the weather
was not bad, just drizzle and some mist. This Clipper had made
a record breaking run on her passage from Australia, and was
set to make a similar return voyage.
The tug-boat had left her off Holyhead and she set course for
a run towards Bardsey. It is said that the three officers were
too unexperienced and with the speed the clipper made, and the
weather, they should not have still be waiting to sight the
Caernarfon lightship when she struck, possibly the submerged
wreck of the Sorrento that had sunk 31 years earlier.The captain
was Robert Lagan Michinson of Hull; the 1st Officer was Alfred
Samuel Blue of Liverpool, and the 2nd Officer was John Albert
Cann of London.All 3 officers were not much more than 25 years
old.
It
was thought that the grounded vessel could be re floated until
a fierce storm blew up.The result of this was that the masts
broke, and in turn they smashed the hull. Due to the gapping
holes in the hull, the cargo began drifting ashore. The cargo
comprised of a large amount of Whisky, Crockery, stout, candles,
matches,pianos, floor coverings etc.. The crockery can still
be seen on many a local dresser. It is also said that ther remain
a few un opened bottles of whisky!.
An
item of crockery from the Stuart
Salt
glazed cream ware- PH & Co.
One
of the mast tubes of the Stuart can still be seen at low
tide. Also the 1/4" thick plates from the hull
Rusting
plate from the Stuart
|