Ffynhonnau
Llŷn
Ffynnon Gwynedd (Abererch)
Gellir gweled y ffynnon hon mewn cyflwr adfeiliedig, yn nhir Mynydd
Mawr, plwyf Abererch, a'i harwynebedd yn oddeutu llathen bob ffordd.
Priodolid iddi y rhinwedd o wellhau crydcymmalau ac amryw glefydon
ereill. Hefyd, pan y byddai rhywun eisiau gwybod pa un a fyddai
person claf farw ai peidio o'r clefyd fyddai arno ar y pryd, ni
byddai dim yn ofynol ond bwrw dilledyn o eiddo y cyfryw i'r ffynnon
hon, na cheffid gwybod wrth weled pa ochr iddi y suddai y dilledyn.
Ffynnon Cae Garw (Carnguwch)
Nid oes yma yn awr
namyn pistyll cryf yn rhedeg o'r ddaear, yn nhir Cae Garw, yn ngwaelod
rhanbarth gogleddol plwyf Carnguwch. Ystyrid dwfr y ffynnonig hon
yn dra llesol at wellau crydcymmalau a thynu ymaith ddefaid, ac wrth
olchi y dwylaw gogyfer ag esgymmuno y defaid, yr oedd yn ofynol
taflu pin bach i mewn i'r ffynnon dros bob dafaden ag y disgwylid
ymwared oddiwrthi.
Ffynnon y Cefnydd (Pistyll)
Llygedyn bychan ger y Pennant, ar yr ochr aswy i'r ffordd sydd
yn arwain o Nefyn i Lithfaen yw y ffynnonig hon. Bu llawer o gyrchu
iddi yn yr hen amseroedd er cae iachad o'r crydcymmalau, a chredid
fod ynddi rin annrhaethol at hyny.
Ffynnon y Gwyfan (Tudweiliog)
Rhywbeth yn debyg i'r flythyren D o ran ffurf ydyw hon, a'i lloches
mewn craig uwchlaw yr afonig Gwyfan (Afon y Felin yn awr), oddeutu
milldir islaw pentref Tudweiliog, ar y terfyn rhwng Porthysgadan
a'r Towyn. Saif pigyn o graig ar y cwr deheuol iddi, yn ogwyddedig
tua'r Gogledd, ac yn ddigon uchel a helaeth i fod megis yn do arni.
Dywedir yr arferid offrymu pinau iddi am wellad oddiwrth ddefaid
ar y corff, gwendid llygaid, a'r cryndod.
Ffynnon Pistyll y Garn, Ffynnon y Filast
a Ffynnon y Brenin [SH 280355](Llaniestyn)
Y mae y tair yma o fewn i derfynau plwyf Llaniestyn, a'r tair
yn meddu ar gryn lawer o rinweddau. Y gyntaf sy nodedig ar gyfrif
y gallu o wellau y crydcymmalau, anhwylderau yn y cylla a'r ymysgaroedd.
Y ddwy olaf oeddynt fendithiol i wellau llygaid gweiniad a dolurus,
ac yn dra llesol i wendid menywaidd, i anmhlantadrwydd, ac i bruddglwyf.
|
Llŷn Wells
Ffynnon Gwynedd (Abererch)
This well can be seen in a ruinous
state on the land of Mynydd Mawr in Abererch. It measures about a
meter square. It is said to have had the abilities to cure arthritis
and many other ailments.
Another noteworthy feature of this
well was the ability to predict whether the sick would die from the
ailment that they had at the time. This would be ascertained by throwing
an item of clothing from the sick person, and observing on which
side of the well the garment sank!
Ffynnon
Cae Garw (Carnguwch)
All that now remains is a strong spring
flowing from the ground, on Cae Garw land situated in the lower half
of the parish of Carnguwch. The water from this spring is purported
to be good for arthritis and for the removal of warts. |