TREFTADAETH
FORWROL
Can
mlynedd yn ôl 'roedd porthladdoedd bychain Gwynedd yn orlawn
gyda llongau hwyliau a adeiladwyd yn lleol, llongau'n hwylio'r
glannau ac yn hwylio ar led. Ym mhentrefi megis Moelfre a Niwbwrch,
Nefyn a Chriccieth, 'roedd bron pob bwthyn yn aelwyd i genedlaethau
o forwyr; 'roedd Amlwch a Phorthmadog, Bermo a Phwllheli, a
phorthladdoedd llechi'r Fenai, Porthladd y Penrhyn,Y Felinheli
a Chaernarfon yn debyg iawn i gymunedau morwrol Scandinafia a
Gogledd America.
Cafodd
y sgwneriaid tri mast prydferth, a ddaeth o iardiau Porthmadog,
iotiau Môr yr lwerydd fel eu gelwid, enw da iawn yn y fasnach
lechi i borthlaeldoedd yr Elbe a Scandinafia a masnach bysgod Newfoundland
a Labrador, ac hefyd am gludo cerrig ffosffad, coed a phob math
o Iwythi o Dde America, Y Caribi, a Môr y, Canoldir a Chulfor
y Ffindir. A'r un modd 'roedd enw ardderchog I longau haearn Amlwch,
o Rio Grande do Sul a Porto Alegr, i Hamburg, aTwrku, ac o Peiotas
i Fredrikstad. Y cysylltiad a'r Iwerddon a'r fferi a fu'n gyfrifol
am dwf llongau a thraddodiad morwrol Caergybi; mae straeon dewder
y Tara a'r Scotia mewn dau ryfel byd yn enghreifftiau o'r cyfoeth
o hanes sy'n perthyn i 'Longau'r Dre'.
Y
barc Ordovic, 875 tunnell, oedd y llong goed fwyaf a adeiladwyd
yn lleol, yn y Felinheli yn 1878; ond bu llawer iawn o longau mawr
coed enwog iawn o arfordir dwyreiniol Canada a'r Unol Daleithiau,
ddaeth i ddwylo perchnogion a rheolwyr o Wynedd yn y ganrif ddiwethaf.
A dyna gip olwg yn unig ar etifeddiaeth sy'n ymestyn o ddyddiau'r
Seintiau Celtaidd a Gwyr Llychlyn, a chestyll Edward I wedi sefydlu
yn agos i'r mor, a dyddiau'r môr-Iadron a'r smyglwyr ar arfordir
lle bu llu o longddrylliadau enwog a llawer enghraifft o ddewder
anhygoel dynion y badau achub. Dymuna amgueddfeydd y mor yng Ngwynedd
eich gwahodd i ymweld a hwy i ailddarganfod etifeddiaeth forwrol
Gwynedd.
Aled
Eames
AMGUEDDFA
HANESYDDOL A MORWROL LLŷN, NEFYN
Hen
Eglwys y Santes Fair, Stryd y llan, Nefyn.
Closed for redevelopment
Cawn
ffotograffau, darluniau ac arteffactau yn dangos y cysylltiad agos
fu rhwng yr ardal a'r môr - adeiladu llongau a llongau mawr
yn hwylio'r byd gyda chriw a swyddogion o Nefyn - yn ogystal a
bywyd dyddiol ar droad y l9fed ganrif.
|
MARITIME
HERITAGE
A hundred
years ago the small ports of Gwynedd were crammed with working sailing
ships, hundreds of them owned and bullt locally, engaged both in
coastal and oceanic trades. In villages like Moelfre.and Newborough,
Nefyn and Criccieth, almost every cottage bred generations of seamen.
Amlwch and Porthmadog, Barmouth and Pwllheli and the slate ports
of the Menai Straits, Porth Penrhyn, Port Dinorwic and Caernarfon,
all had much in common with similar maritime communities in Scandinavia
and North America.
The
beautiful three masted schooners which came from the shipyards
of Porthmadog, known to contemporaries as the Western Ocean Yachts,
gained an enviable reputation in the slate trade to the Elbe
ports and Scandinavia, in the salt fish trade of Newfoundland
and Labrador as well as carrying phosphate rock, timber and general
cargoes which took them to ports from South America, the Carribean,
the Mediterranean, the Gulf of Finland.
Similarly
the fine iron barquentines and schooners of Amlwch were known from
Rio Grande do Sul and Porto Alegre to Hamburg and Twrku Peloras
to Fredrickstad. At Holyhead it was the vital ferry to Ireland
which created the demand for ships and seamen, and the heroic stories
of the Tara and Scotia in two world wars are but examples out of
the wealth of material in the story of this once busy port.
The
largest vessel to come from local shipyards was the wood barque
Ordovic, 875 t, at Port Dinorwic in 1878, but many large wooden
sailing ships built in the Canadian Maritimes and the United States
were owned and managed in Gwynedd in the last century. And this
is only a brief glimpse of a maritime heritage extending from the
days of the early Celtic saints and the vikings, the castles of
Edward I strategically placed to make the most of the seapower,
and the days of pirates and smugglers on a coast which has more
than its share of tragic wrecks' and outstanding rescues by brave
lifeboat crews. The maritime museums of Gwynedd invite you to share
with them the rediscovering of the maritine heritage of Gwynedd.
Aled
Eames
LLEYN
HISTORICAL & MARITIME MUSEUM, NEFYN
Old
St Mary's Church, Church Street, Nefyn.
Closed for redevelopment
The
Museum is housed in the Old Church on the site of a 6th century
Celtic church. There is a weather vane shaped as a full rigged
ship on the tower.
Through
painting, photographs and artefacts is shown the local maritime
history including ship building, coasting vessels, herring
industry and also everyday life at the turn of the 19th century.
Rhif
Elusen . Charity No. 514365
|