Treftadaeth Glennydd Llyn


Treftadaeth Glennydd Llyn
Rhoddwyd statws arbennig iawn i 55 milltir o arfordir Dwyfor yn 1974 pan ddiffiniwyd ef yn arfordir treftadaeth ar sail ei gyfoeth hanesyddol,daearyddol, ecolegol, a daearegol. Mae’r arfordir yn ymestyn o Benrhyn Du, Abersoch ymlaen o gwmpas Ynys Enlli ac i’r gogledd hyd at yr Eifl ac ymlaen i Aberdesach. Y bwriad yw gwarchod yr arfordir, i leihau’r gwrthdaro rhwng ymwelwyr, buddiannau cadwraeth a bywyd bob dydd y cymunedau lleol.

Gwneir gwaith ymarferol ar draethau, llwybrau cyhoeddus, safleoedd picnic a chodir waliau ac arwyddion cyfeirio. Addurnir pob safle ag arwyddion gyda’r frân goesgoch yn amlwg arno.


Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol

  Ynys Enlli a Chors Geirch


Gwarchodfeydd Natur Lleol
Mae ardal Lôn Cob Bach, Pwllheli (SH 373347) wedi ei ddynodi gan Gyngor Gwynedd oherwydd ei gwerth ecolegol lleol a’r defnydd hamdden a wneir ohoni. Mae’n gymharol unigryw fel Gwarchodfa Natur Leol am ei bod yn enghraifft o wlyptir a gwastadedd llifogydd o fewn tref. Bwriedir ei hymestyn yn y blynyddoedd sydd i ddod.


Ardaloedd Cadwraeth
Dynodwyd nifer o adeiladau yn Llyn gyda’r bwriad o’u gwarchod a diogelu naws pentrefi’r ardal. Yn eu plith mae canol pentrefi Aberdaron a rhannau o Lanengan a Llangian sydd o fewn cyffiniau’r eglwys. Rhestrir nifer o adeiladau ym Mhwllheli megis y Wyrcws, Penlan Fawr, ‘Whitehall’, dorau’r harbwr, Hen Neuadd y Dref, y gofeb ar y Cob a’r addoldai.


Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae mwy a mwy o dir Llyn, yn arbennig ar yr arfordir, yn dod i berchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – bron i 3000 o aceri. Mae y dyfodol y tir wedi ei warchod; caiff ei amaethu a rhoddir rhyddid rhesymol i’r cyhoedd i’w grwydro. Yr unig adeilad o’u heiddo sy’n agored i’r cyhoedd yw Plas yn Rhiw.


Safle Ramsar
Mae’r Gors Geirch a Chors Edern sy’n ymestyn o Rydyclafdy i gyfeiriad Edern yn enghraifft ragorol o gorstir calchog a chydnabuwyd eu harbenigrwydd yn 1998 gan gomisiwn Ramsar. (Ramsar – dinas yn Iraq lle’r arwyddwyd cytundeb.)


Ardal Cadwraeth Arbennig Forol

Dynodwyd yr ardal forol, a adnabyddir fel ‘Pen Llyn a’r Sarnau’ ar sail cyfoeth bywyd gwyllt y môr, arbenigrwydd ei haberoedd a’r riffiau ar Sarnau Padrig, Gyfelog a Wallog. Mae Sarn Badrig yn greigiau tanddwr sy’n rhedeg o Frochas ym Meirionydd ac i’r de o Ynys Enlli a’r ddwy arall yn is i lawr ym Mae Ceredigion.

 

 

 

Llyn Coastal Heritage


Llyn Coastal Heritage
Special status was given to 55 miles of Dwyfor’s shoreline in 1974 to protect the historical, geographical, ecological, and geological richness of the area. The protected coastal link stretches from Penrhyn Du, Abersoch, around Ynys Enlli (Bardsey), northwards to Yr Eifl (Rivals) onto Aberdesach. This status is aimed at creating a balance between the tourism interest and that of the local communities.

Practical work is carried out on paths, beaches and picnic areas. Stonewalling and signage construction is also amongst the work carried out.
 
National Nature Reserves
Ynys Enlli (Bardsey) and Gors Geirch


 
Local Nature Reserves
The land at the Cob, Pwllheli (SH 373347) has been protected as a Local Nature Reserve by Cyngor Gwynedd Council. This is quite unique for this nature reserve is located at the centre of Llyn’s busiest and largest town.
 
Preservation Areas
Many of Llyn’s building are protected in an effort to preserve the natural appearance of rural villages. Aberdaron, Llanengan and Llangian are just some of those villages protected in this way. Many buildings in Pwllheli arte also listed, including the old Workhouse, The Penlan Fawr, Whitehall, the harbour gates, The Old Town Hall, its many worship buildings and the memorial on the Cob.
 
The National Trust
The National Trust is acquiring more and more land on Llyn – nearly 3000 acres to date. The future of this land is now safe and relative freedom to roam is given to the public. The only public access building in National Trust ownership on Llyn is Plas yn Rhiw.  
 
Ramsar Site
Gors Geirch and Cors Edern that stretch from Rhydyclafdy towards Edern are excellent examples of chalk-based boglands, which were recognised for protection in 1998 by the Ramsar Commission. (Ramsar – a city in Iraq where the agreement was signed.)

Special Marine Preservation Area
The area known as ‘Pen Llyn and Sarnau’ is protected due to the rich diversity of marine wildlife that occupy the reefs at Sarnau Padrig, Gyfelog and Wallog. Sarn Badrig are underwater rocks that run from Frochas in Meirionydd to the south of Ynys Enlli. The other two are located further south in Cardigan Bay.


 

 
 

© penllyn.com 2000-3